Vishnu

Oddi ar Wicipedia
Vishnu
Enghraifft o'r canlynolHindu deity, ffigwr chwedlonol Edit this on Wikidata
Rhan oTrimurti Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duw Hindŵaidd a addolir fel y Bod Goruchel neu'r Realiti Pennaf gan Vaishnaviaid ac fel ymrithiad neu agwedd ar Brahma yn y traddodiadau Advaita a Smartiaeth, ac a adnabyddir hefyd fel Narayana, yw Vishnu neu Sri Vishnu (Devanagari विष्णु ; yngenir fel Fisnŵ). Ei gymar yw'r dduwies Lakshmi ac mae'n marchogaeth yr aderyn chwedlonol Garuda.

Yn y Vishnu Sahasranama disgrifir Fisnŵ fel hanfod hollbresennol popeth byw, arglwydd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol sydd hefyd y tu hwnt i bob gradd amser, creawdwr a dinistriwr popeth sy'n bodoli, yr un sy'n cynnal, maethu a rheoli'r Bydysawd ac sy'n creu a datblygu popeth o'i fewn. Yn nysgeidiaeth y Trimurti, Fisnŵ sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r Bydysawd, gyda Brahma a Sifa yn gyfrifol am ei greu a'i ddinistrio neu ei drawsffurfio. Crishna yw ymrithiad enwocaf Fisnŵ.

Yn y Pwrana, portreadir Fisnŵ fel bod o liw'r cymylau (glas tywyll), gyda phedair braich, yn dal lotws (padma), gwialen (gada), consh (sada) a chakra (olwyn sy'n cynrychioli amser neu'r dharma). Yn y Bhagavad Gita, dywedir fod gan Fisnŵ 'ffurf byd-eang' (Vishvarupa) neu dragwyddol sydd y tu hwnt i'r amgyffred dynol.

Ceir gwybodaeth am afatarau (neu ymgnawdoliadau) Fisnŵ yn y Pwranâu. Dywedir yno fod naw o'r afatarau hyn wedi bod yn y gorffennol, gydag un arall i ddod yn y Kali Yuga presennol. Yn y traddodiadau Sanatana Dharma, addolir Fisnŵ naill ai yn uniongyrchol neu drwy ei afatarau, yn enwedig yn rhith Rama, Crishna, Varaha a Narasimha. Mae ei ffurfiau eraill yn cynnwys Narayana a Vasudeva a'r pysgodyn Matsya.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.