Siciaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Dyma bumed crefydd mwya'r byd gyda dros 30 miliwn o ddilynwyr. Adnabyddir y system hon o athroniaeth crefyddol fel Gurmat (a drosir fel 'doethineb y Gurū'). Yr unig ranbarth yn y byd gyda mwyafrif o'i boblogaeth yn Sikhiaid ydy Punjab, India.

Teml Euraidd Amristsar

Prif gysegrfan y Siciaid yw'r Deml Euraidd yn Amritsar, yn y Punjab.

Pererin Sicaidd yn Harmandir Sahib (Teml Euraidd Amristsar) newydd gael bath. Enillodd y llun hwn Wobr y Flwyddyn, 2008.

Dau gredo sylfaenol Siciaeth yw :

  • Y gred mewn un Duw. Nid yw brawddeg gyntaf yr ysgrythur ond dau air Ek Onkar, sef "Un Creawdwr".
  • Mae dilynwyr Siciaeth wedi eu hymdynghedu i ddilyn athrawiaethau y Deg Guru.

SikhismSymbol.PNG Eginyn erthygl sydd uchod am Siciaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.