Afon Wral
Oddi ar Wicipedia
Afon sy'n llifo drwy Rwsia a Kazakstan yw afon Wral (Rwseg: Урал; Kazakheg: Жайық; Jayıq). Mae'n tarddu ym Mynyddoedd Wral ac yn aberu ym Môr Caspoa. Hi yw trydedd afon hiraf Ewrop: 2,428 km.
Y dinasoedd mwyaf ar afon Wral yw:
- Orsk (Rwsia), ger ei chymer ag afon Or,
- Orenburg (Rwsia); gall llongau mawr gyrraedd hyd yma
- Oral (Kazakstan)
- Atıraw (Kazakstan), ger yr aber
Hyd 1775, enw'r afon oedd Jaik (neu Jaïk). Yn y flwyddyn honno, gwrthryfelodd y werin yng ngwrthryfel Pugachev. Ymhlith cefnogwyr Pugachev, roedd Cosaciaid Jaik. Penderfynodd yr ymerodres Catrin II newid enw'r afon fel cosb arnynt.
Pont dros afon Wral ger Orenburg.