Mynyddoedd yr Wral
Mynyddoedd sy'n ffurfio cadwyn o'r de i'r gogledd yng ngorllewin Rwsia yw Mynyddoedd yr Wral (Rwseg: Ура́льские го́ры, Uralskiye gory). Ystyrir fel rheol mai hwy sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Ewrop ac Asia. Mae 68% o'r gadwyn y Rwsia a 32% yn Kazakhstan. Enwir Talaith Wral ar eu hôl.
Mae'r Wral yn ymestyn am 2,498 km o'r paith ger ffîn ogleddol Kazakhstan hyd arfordit gogleddol Rwsia, ar y Môr Arctig, ac yn ymestyn ymhellach i'r gogledd i ffurfio ynysoedd Ynys Vaygach a Novaya Zemlya. Y copa uchaf yw Mynydd Narodnaya (Poznurr, 1,895 m). Dynodwyd Coedwigoedd Gwyryfol Komi yng ngogledd Mynyddoedd yr Wral yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Enwyd y gadwyn ar ôl llwyth yr Wraliaid, llyth o helwyr-gasglwyr oedd yn arfer byw yng ngogledd Asia. Yn ddaearegol, maent ymhlith mynyddoedd hynaf y byd, 250 hyd 300 miliwn o flynyddoedd oed.
Gweler hefyd[golygu]
- Talaith Wral, un o daleithiau ffederal Rwsia.