Môr Caspia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
LLun lloeren o Fôr Caspia

Môr bychan wedi ei amgylchynu gan dir neu lyn enfawr yw Môr Caspia (Perseg: دریای خزر Daryā-ye Khazar, Rwseg: Каспийское море). Saif ar y ffîn rhwng Ewrop ac Asia, ac mae ei arwynebedd yn 371.000 km². Ceir pum gwlad o'i amgylch, Rwsia, Kazakhstan, Turkmenistan, Iran ac Azerbaijan. Er gwaethaf ei enw, cyfrifir Môr Caspia yn llyn fel rheol.

Y prif afonydd sy'n llifo iddo yw afon Folga, afon Ural, afon Terek ac afon Koera. Nid oes afon yn llifo allan ohono, felly mae'r dŵr yn hallt. Yn 2008 roedd tua 28 medr islaw lefel y môr. Mae lefel dŵr Môr Caspia ei hun wedi gostwng yn sylweddol yn y degawdau diwethaf, oherwydd lleihad yn y glawogydd ac adeiladu argaeau i gymeryd dŵr o'r Folga.

Lleoliad Môr Caspia
LocationAsia.png Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato