Orenburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Orenburg.
Prifysgol Wladol Orenburg.

Dinas yn Rwsia yw Orenburg (Rwseg: Оренбург), sy'n ganolfan weinyddol Oblast Orenburg yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Volga. Poblogaeth: 548,331 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir y ddinas ar lan Afon Wral yn y man lle llifa Afon Sakmara iddi, 1,478 cilometer (918 milltir) i'r de-ddwyrain o Moscfa, yn agos i'r ffin rhwng Rwsia a Casacstan.

Sefydlwyd y ddinas yn y 1740au wrth i Ymerodraeth Rwsia ehangu i'r de a'r dwyrain.

Ceir sawl sefydliad addysg uwch yno, yn cynnwys Prifysgol Wladol Orenburg, ynghyd â theatrau ac amgueddfeydd, e.e. Amgueddfa Celf Ranbarthol Orenburg.

Pobl o Orenburg[golygu]

Mae pobl a aned yn Orenburg neu a dreuliodd gyfnod sylweddol o'u bywyd yno yn cynnwys

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.