Môr Japan

Oddi ar Wicipedia
Môr Japan
Mathmôr ymylon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
GwladRwsia, Japan, Gogledd Corea, De Corea Edit this on Wikidata
Arwynebedd978,000 ±1 km², 1,048,950 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40°N 135°E Edit this on Wikidata
Hyd2,254 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Môr Japan[1] neu Môr y Dwyrain yw enw'r môr sydd wedi lleoli rhwng Japan, Corea a Rwsia yn Nwyrain Asia. Gan fod y môr wedi cylchu bron yn llwyr gan dir, nid oes yna llanw i gael yno.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

I'r gogledd o'r môr mae Rwsia a ynys Sakhalin; i'r gorllewin, De a Gogledd Corea. i'r dwyrain, mae' ynysoedd Hokkaidō, Honshū a Kyūshū yn Japan.

Mae'r môr yn mesur 3,742 medr o dan lefel y môr yn y man mwyaf dwfn. Ar gyfartaledd, dyfnder y môr yw 1,753 medr.

Economi[golygu | golygu cod]

Mae llawer o bysgod i gael yna, sydd yn gwneud pysgota yn bwysig iawn. Mae yna hefyd fineralau i'w gael ac mae yna sôn am nwy naturiol a petroliwm hefyd. Ar ôl i economiau gwledydd dwyrain Asia dyfu, mae'r môr wedi dod yn bwysig i fasnach hefyd.

Dadl dros yr enw[golygu | golygu cod]

Er bod yr enw Môr Japan (Japaneg: 日本海 nihonkai) yn cael ei ddefnyddio i enwi'r môr mewn rhan fwyaf o wledydd, mae De a Gogledd Corea yn gofyn am enw gwahanol. Mae De Corea yn dadlau mai Môr y Dwyrain dylai'r enw fod (Ar ôl yr enw Coreeg, 동해 Donghae) ac mae Gogledd Corea yn ffafrio Môr Dwyrain Corea (Coreeg: 조선동해 Chosŏn Tonghae). Maent yn dadlau mai hen enw am y môr oedd Môr Corea a fe newidiwyd yr enw gan Ymerodraeth Japan pan roedd Corea o dan eu rheolaeth yn yr 20g gynnar. O achos i'r gwrthwynebiad o wledydd Corea, mae rhai cyhoeddwyr Saesneg yn galw'r môr yn "Sea of Japan (East Sea)".

Môr Japan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 106.