Japan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
日本国
Nihon-koku
Nippon-koku

Japan
Baner Japan Sêl Ymerodraethol Japan
Baner Sêl Ymerodraethol
Arwyddair: Dim
Anthem: Kimi ga Yo
Lleoliad Japan
Prifddinas Tokyo
Dinas fwyaf Tokyo
Iaith / Ieithoedd swyddogol Japaneg 1
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Ymerawdr
 • Prif Weinidog
Akihito
Yoshihiko Noda
Ffurfiant
11 Chwefror 660 B.C.
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
377,835 km² (63fed)
0.8
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
128,085,000 (10fed)
337/km² (30fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$3.911 triliwn (3fed)
$30,615 (16fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.943 (11fed) – uchel
Arian cyfred Yen Japaneaidd (¥) (JPY)
Cylchfa amser
 - Haf
JST (UTC+9)
Côd ISO y wlad .jp
Côd ffôn +81

Mae Japan (Japaneg: 日本 Loudspeaker.svg ynganiad ?/i Nihon; Nippon) (hefyd Siapan) yn wlad sy'n cynnwys miloedd o ynysoedd yn nwyrain Asia. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tseina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan.

Cynnwys

[golygu] Geirdarddiad

Ecsonym yw'r gair Japan a ddatblygodd trwy lwybrau masnach cynnar, yn debygol iawn o ynganiad Tseiniaidd Wu neu Mandarin cynnar o'r gair gwreiddiol Japaneg. Yr enw Japaneg ar y wlad yw Nihon, neu yn llai aml defnyddir yr hen enw Nippon. Mae gan y ddwy enw yr un ystyr sef "tarddiad yr haul", a caiff y ddwy eu hysgrifennu gan ddefnyddio'r ddau kanji 日本. Ystyr y kanji cyntaf 日 (Ni-) yw dydd neu haul; ystyr yr ail 本 (-hon) yw gwraidd, tarddiad neu lyfr.

[golygu] Dinasoedd

Prifddinas Siapan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt gwleidyddol ac economaidd y wlad. Ger Tokyo, mae dinas fawr Yokohama ynghyd a rhannau helaeth o daleithiau cyfagos yn ffurfio i greu Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 [1]. Dinasoedd mawr eraill Japan yw Osaka, Nagoya, Sapporo, Kobe, Kyoto, Fukuoka, Kawasaki a Saitama.

[golygu] Daearyddiaeth

Prif erthygl: Daearyddiaeth Japan.

Mae bron i 7,000 o ynysoedd yn Japan, ond yr ynys fwyaf o ran maint a phoblogaeth yw Honshū sydd yn ymestyn ar hyd ganolbarth y wlad. Mae tair ynys arall nodweddol o ran maint a phoblogaeth - Hokkaidō yn y gogledd, Kyūshū yn y de-orllewin a Shikoku yn y de. Mae Japan yn wlad fynyddig ac ychydig o wastadeddau sydd i'w cael sydd yn addas i fyw, y rheswm am y dwysedd poblogaeth uchel. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (富士山 Fuji-san) (3776m).

Gan fod Japan yn rhan o'r Cylch Tân (y gadwyn o losgfynyddoedd o gwmpas y Cefnfor Tawel) ceir llawer o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a ffynhonnau poeth yn y wlad.

[golygu] Gwleidyddiaeth

Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Japan.

Mae Japan yn deyrnas seneddol. Ceir Tenno (天皇Ymerawdwr) a senedd, system tebyg iawn i'r hyn sydd ym Mhrydain.

Naoto Kan o Blaid Ddemocrataidd Japan (Democratic Party of Japan neu DPJ) ydy Prif Weinidog Japan wedi ymddiswyddiad Yukio Hatoyama ym Mehefin 2010.

[golygu] Economi

Prif erthygl: Economi Japan.

Yn 2009 Japan oedd ail economi mwyaf y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae bancio, yswiriant, eiddo diriaethol, masnach, trafnidiaeth, telathrebu ac adeiladwaith i gyd yn ddiwydiannau mawr.[2] Mae gan Japan gynhwysedd sylweddol i gynhyrchu ar raddfa fawr, ac mae'n gartref i nifer o ddatblygiadau a newyddbethau technogol yn y meysydd moduro, electroneg, offer peiriannau, haearn a metelau anfferrus, llongau, sylweddau cemegol, tecstiliau a bwyd wedi eu prosesu.

Mae'r sector gwasanaethau yn cyfri fel dros dri chwarter o'i CMC, llawer mwy nac amaethyddiaeth a gwneuthuriaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio deunyddiau crai a mwynau fel olew a haearn. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft, ceir neu gynhyrchion trydanol a chemegol.

[golygu] Poblogaeth

Prif erthygl: Poblogaeth Japan.

Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg.

Yng ngogledd y wlad y mae grŵp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.

[golygu] Rhanbarthau Gweinyddol

Prif erthygl: Taleithiau Japan.
Map o daleithiau a rhanbarthau Japan

Mae 47 talaith (Saesneg: Prefecture) yn ffurffio Japan, pob un â llywodraethwr etholedig ynghyd â deddfwrfa a biwrocratiaeth weinyddol. Mae taleithiau yn cyfuno i greu rhanbarth ac yn is-rannu i greu dinasoedd, trefi a phentrefi.


1. Hokkaidō


2. Aomori
3. Iwate
4. Miyagi
5. Akita
6. Yamagata
7. Fukushima


8. Ibaraki
9. Tochigi
10. Gunma
11. Saitama
12. Chiba
13. Tōkyō
14. Kanagawa


15. Niigata
16. Toyama
17. Ishikawa
18. Fukui
19. Yamanashi
20. Nagano
21. Gifu
22. Shizuoka
23. Aichi


24. Mie
25. Shiga
26. Kyoto
27. Osaka
28. Hyōgo
29. Nara
30. Wakayama


31. Tottori
32. Shimane
33. Okayama
34. Hiroshima
35. Yamaguchi


36. Tokushima
37. Kagawa
38. Ehime
39. Kōchi


40. Fukuoka
41. Saga
42. Nagasaki
43. Kumamoto
44. Ōita
45. Miyazaki
46. Kagoshima
47. Okinawa

[golygu] Cyfeiriadau

  1. http://esa.un.org/unup/p2k0data.asp
  2. er 6 Manufacturing and Construction, Statistical Handbook of Japan, Ministry of Internal Affairs and Communications

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill