Shinzo Abe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shinzo Abe
安倍 晋三
Shinzo Abe

Cyfnod yn y swydd
26 Medi 2006 – 26 Medi 2007
Rhagflaenydd Junichiro Koizumi
Olynydd Yasuo Fukuda

Cyfnod yn y swydd
31 Hydref 2005 – 26 Medi 2006
Prif Weinidog Junichiro Koizumi
Rhagflaenydd Hiroyuki Hosoda
Olynydd Yasuhisa Shiozaki

Deiliad
Cymryd y swydd
11 Medi 2005
Rhagflaenydd etholaeth newydd

Geni Medi 21, 1954 (1954-09-21) (57 mlwydd oed)
Japan Nagato, Yamaguchi, Japan
Etholaeth 4ydd ddosbarth Yamaguchi
Plaid wleidyddol Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol
Priod Akie Abe
Crefydd Bwdhaeth a Shinto[1][2]

90ain Brif Weinidog Japan oedd Shinzo Abe (Japaneg: 安倍 晋三, [abe ɕinzoː]; ganwyd 21 Medi 1954), a etholwyd gan sesiwn arbennig o'r Diet ar 26 Medi 2006. Ef oedd prif weinidog ieuangaf Japan ers yr Ail Ryfel Byd, a'r un cyntaf i'w eni ar ôl y rhyfel. Ymddiswyddodd yn sydyn ar 12 Medi 2007 yn dilyn misoedd o bwysau gwleidyddol.[3] Cafodd ei olynu gan Yasuo Fukuda, 91ain Brif Weinidog Japan.[4]

Ganwyd Abe i fewn i deulu gwleidyddol, ac astudiodd gwyddor gwleidyddiaeth yn Japan; astudiodd hefyd yn yr Unol Daleithiau. Gweithiodd yn y sector preifat nes 1982 pan ddechreuodd ei gyntaf o nifer o swyddi llywodraethol. Daeth i fewn i wleidyddiaeth yn 1993 pan enillodd etholiad yn Nhalaith Yamaguchi. Gwasanaethodd o dan Brif Weinidogion Yoshiro Mori a Junichiro Koizumi, a daeth yn Brif Ysgrifennydd Cabinet Koizumi. Daeth Abe yn enwog am ei safbwynt cryf yn erbyn Gogledd Corea, wnaeth arwain at lywyddiaeth Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, y blaid lywodraethol, a swydd y Prif Weinidog. Disgwylwyd Abe i ddilyn polisïau economaidd ei ragflaenydd, ac hefyd i wella'r cysylltiadau tyn gyda Gweriniaeth Pobl China.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. (Japaneg) Abe yn mynychu cynhadledd Shinto. Adalwyd ar 29 Medi, 2007.
  2. (Japaneg) Abe yn mynychu cynhadledd Fwdhaidd. Adalwyd ar 29 Medi, 2007.
  3. (Saesneg) Japanese prime minister resigns. BBC (12 Medi, 2007).
  4. (Saesneg) Fukuda installed as Japanese PM. BBC (25 Medi, 2007).

[golygu] Cysylltiadau allanol

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill