Yasuo Fukuda

Oddi ar Wicipedia
Yasuo Fukuda
Ganwyd16 Gorffennaf 1936 Edit this on Wikidata
Takasaki, Setagaya-ku Edit this on Wikidata
Man preswylGunma Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Waseda
  • Azabu Junior and Senior High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, economegydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Japan, Prif Ysgrifennydd y Cabinet, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Minister of State for Gender Equality Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadTakeo Fukuda Edit this on Wikidata
MamMie Fukuda Edit this on Wikidata
PriodKiyoko Fukuda Edit this on Wikidata
PlantTatsuo Fukuda Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Merit Edit this on Wikidata

Yasuo Fukuda (福田 康夫 Fukuda Yasuo, ganwyd 16 Gorffennaf 1936) oedd 91ain prif weinidog Japan ac arweinydd Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol. Fe'i apwyntiwyd i'r swyddi ym mis Medi 2007 ar ôl ymddiswyddiad sydyn ei ragflaenydd, Shinzo Abe. Fe ymddiswyddodd yn sydyn hefyd ym mis Medi 2008, ar ôl llai na flwyddyn yn y swydd. Cyn hyn, Fukuda oedd prif ysgrifennydd y cabinet rhwng 2000 a 2004. Pan ymddiswyddodd yng nghanol sgandal ynglŷn â phensiynau, fe oedd y prif ysgrifennydd a ddaliodd y swydd am yr amser hiraf yn hanes y wlad. Yn ogystal â hyn, Fukuda oedd y prif weinidog cyntaf sydd yn fab i gyn-brif weinidog, gan mai Takeo Fukuda oedd ei dad.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe anwyd Yasuo Fukuda yn Takasaki, Gunma, mab cyntaf y gwleidydd Takeo Fukuda. Cafodd ei fagu yn Setagaya, Tokyo ble mynychodd Ysgol Uwch Azabu. Graddiodd ym Mhrifysgol Waseda gyda gradd mewn economeg ym 1959. Ar ôl ei amser yn y brifysgol, cafodd swydd yn Maruzen Petroleum (heddiw yn rhan o'r Cosmo Oil Company). Dros yr 17 mlynedd nesaf, nid oedd ganddo lawer i wneud mewn gwleidyddiaeth. Fe ddringodd ei ffordd i fod yn bennaeth adran busnes. Ymsefydlodd yn yr Unol Daleithiau rhwng 1962 a 1969. Pan roedd ei dad yn brif weinidog rhwng 1976 a 1978, gweithiodd fel ysgrifennydd gwleidyddol. O 1978 i 1989 roedd e'n gyfarwyddwr yn Sefydliad Achosion Ariannol Kinzai, yn gweini fel ymddiriedolwr o 1986 ymlaen.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Rhedodd Fukuda am Dŷ'r Cynrychiolwyr ym 1990 ac ennill sedd. Daeth yn is-gyfarwyddwr Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol ym 1997 a phrif ysgrifennydd y cabinet yn 2000, gyda Yoshiro Mori yn brif weinidog. Fe ymddiswyddodd o'r swydd yma yn 2004 yng nghanol sgandal mawr yn perthnasu a'r sustem bensiynau yn Japan. Fe'i ystyriwyd fel ymgeisydd potensial am arweinyddiaeth y blaid yn 2006 ond dewisodd yn erbyn rhedeg. Yn lle, daeth Shinzo Abe yn arweinydd y blaid a prif weinidog Japan, yn colynnu Junichiro Koizumi. Un o'i bolisïau nodedig yw ceisio terfynu ymweliadau gan y prif weinidog i'r Allor Yasukuni. Ym mis Mehefin 2006, cynigodd Fukuda a 136 cynrychiolwr arall am arall ddewis seciwlar yn lle, yn dyfynnu o bryderon cyfansoddiadol.

Prif weinidogaeth[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymddiswyddiad Shinzo Abe yn Medi 2007, cyhoeddodd Fukuda y byddai'n rhedeg yn etholiad arweiniol y blaid, gyda'r enillydd yn dod yn brif weinidog, hefyd, gan mai'r Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd yw'r blaid fwyaf yn Nhŷ'r cynrychiolwyr. Fe fwynhaodd Fukuda llawer o gefnogaeth yn ei ymgais, yn cynnwys y grŵp mwyaf yn y blaid, o dan arweinyddiaeth yr ysgrifennydd tramor Nobutaka Machimura, ble mae Fukuda hefyd yn aelod. Cefnodd y gweinidog ariannol Fukushiro Nukaga ei ymgais hefyd. Fe addefodd yr unig ymgeisydd arall yn yr etholiad, Taro Aso, y byddai mwy na thebyg yn colli'r etholiad yn yr wythnos cyn byddai'r bleidlais yn digwydd.

Yn yr etholiad, ar y 23 Medi, fe enillodd Fukuda gan 330 pleidlais yn erbyn 197 i Aso. Fe'i etholwyd yn 91fed prif weinidog Japan ar 25 Medi. Derbyniodd 338 pleidlais, bron â bod dros gant mwy nag oedd eisiau am fwyafrif yn Nhŷ'r cynrychiolwyr; ond yn Nhŷ'r Cynghorwyr (yr ail dŷ), sydd dan reolaeth y Blaid Ddemocrataidd, fe gollodd i'w ymgeisydd nhw, Ichiro Ozawa gyda 106 pleidlais i 133. Fe ddatryswyd hwn gan fynd gyda dewisiad Tŷ'r Cynrychiolwyr, yn ôl cyfansoddiad Japan.

Tyngwyd Fukuda a'i gabinet mewn i lywodraeth gan yr ymerawdwr Akihito ar 26 Medi.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: