Shikoku

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shikoku

Ynys Shikoku (四国) yw'r lleiaf o bedair ynys fawr Japan. Saif yn ne y wlad, i'r de o'r ynys fwyaf, Honshū, ac i'r gogledd-ddwyrain o Kyūshū. Gyda rhai o'r ynysoedd llai o'u chwmpas, mae'n ffurfio Rhanbarth Shikoku (四国地方, Shikoku-chihō). Y brifddinas yw porthladd Matsuyama yng ngogledd yr ynys.

Mae gan yr ynys arwynebedd o 18.292 km², ac roedd y boblogaeth yn 2006 tua 4.2 miliwn. Y copa uchaf yw Ishizuchi (1,982 medr).

Mae pedair talaith ar ynys Shikoku: Ehime i'r gorllewin, Kagawa i'r gogledd, Tokushima i'r dwyrain a Kōchi yn y de.

Flag Japan template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato