Haearn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Haearn
Haearn
Haearn mewn cynhwysydd
Tabl
Symbol Fe
Rhif 26
Dwysedd 7874 kg m-3

Metel o liw llwyd yw haearn, sy'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Fe (o'r Lladin ferrum 'haearn') a'r rhif 26. Elfen chweched gyffredinaf y bydysawd ydyw, sy'n bodoli mewn pedwar isotop sefydlog: 54Fe (5.845%), 56Fe (91.754%), 57Fe (2.119%), a 58Fe (0.282%).

Metel ydyw, ond anaml y'i ceir mewn ffurf fetelig ar wyneb y ddaear, gan ei fod yn ocsideiddio ym mhresenoldeb ocsigen a gwlybwr. Defnyddir y mwyn hematit (Fe2O3) yn amlaf i gynhyrchu haearn. Gall priodweddau haearn eu newid gan greu aloion ohono gydag amryw o fetelau eraill (a rhai an-fetelau, yn enwedig carbon a silicon) i ffurfio duroedd.

Mae haearn yn rhan anhepgor o ddeiet achos y'i ddefnyddir i ffurfio hemoglobin yn y gwaed. Serch hynny, gall gormodedd o haearn fod yn wenwynig ac mae'n un o'r achosion tocsicolegol cyffredinaf o farwolaeth plant dan 6 oed.

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Dolenni allanol

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
Nuvola apps edu science.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill