| Galiwm
|
 |
| Galiwm mewn cynhwysydd |
|
 |
| Symbol |
Ga |
| Rhif |
31 |
| Dwysedd |
5.91 g·cm−3 |
Galiwm yw un elfen gemegol yn y tabl cyfnodol gyda'r symbol Ga' a'r rhif atomig 31. Mae'n fetel tlawd sgleiniog, meddal ac arianaidd. Mae ganddo ymdoddbwynt isel am fetel, ac mae'r metel yn ymdoddi yn y llaw. Mae Galiwm yn ffurfio nifer sylweddol o gyfansoddion yn cynnwys Galiwm Arsenid, sy'n deunydd defnyddiol ar gyfer deuodau allyrriant golau (light emitting diodes, LED) ac yn y diwidiant electroneg.
Yn 1875 darganfuwyd galiwm (Lladin Gallia ar gyfer Gaul) gan Lecoq de Boisbaudran. Galiwm oedd un o'r elfennau rhagwelwyd gan Dmitri Mendeleev i lenwi bylchau yn ei dabl cyfnodol. Gan ei fod o dan alwminiwm, enwodd yr elfen yn eka-alwminiwm ac roedd canlyniadau'r astudiaethau o'r elfen newydd yn un o'r camau pwysicaf yn y llwybr i brofi pwysigrwydd y tabl cyfnodol a chyfnodedd.
| Priodwedd |
Eka-alwminiwm |
Galiwm |
| Mas cymharol |
tua 68 |
69.7 |
| Dwysedd(g/cm3) |
6.0 |
5.91 |
| Ymdoddbwynt (°C) |
isel |
29.8 |
Cysylltiadau allanol [golygu]