Kansai
Oddi ar Wicipedia
Kansai, Rhanbarth Kansai (関西地方 Kansai-chihō) neu Kinki (近畿地方 Kinki-chihō) yw'r enw a roddir ar ranbarth deheuol ganolog ynys Honshū, Japan. Mae'r rhanbarth yn cynnwys taleithiau Nara, Wakayama, Kyoto, Osaka, Hyōgo, Mie a Shiga. Yn achlysurol mae taleithiau Fukui, Tokushima a hyd yn oed Tottori (talaith) yn cael eu cynnwys. Mae ardal ddinesig Osaka, Kobe a Kyoto (ardal Keihanshin) yn cyfuno i greu ail ardal mwyaf poblog Japan ar ôl Ardal Tokyo Fwyaf.
Golygir Kansai i'r gorllewin o'r ffin, ac yn al fe wneir cymhariethau rhyngddi a rhanbarth Kantō yn Nwyrain y wlad sydd yn cynnwys Tōkyō a'r dinasoedd cyfagos. O bosib oherwydd hyn mae hanes hir o elfen gystadleuol wedi bodoli rhwng y ddwy ardal.