Tottori (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Talaith yn Japan yw Tottori neu Talaith Tottori (Japaneg: 鳥取県 Tottori-ken). Mae'r dalaith wedi ei lleoli ar arfordir gogleddol rhanbarth Chūgoku yng ngorllewin ynys Honshū, ynys fwyaf Japan. Ei phrifddinas yw dinas Tottori.
Tottori yw talaith lleiaf poblog Japan.
Daearyddiaeth [golygu]
Mae Tottori yn gartref i Dwyni Tywod Tottori (鳥取砂丘; Tottori-Sakyū), yr unig dwyni tywod o'r fath (h.y. maint) yn Japan.
Dinasoedd [golygu]
Mae pedair dinas yn nhalaith Tottori:
- Kurayoshi
- Sakaiminato
- Tottori (prifddinas)
- Yonago