Anime

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Anime cyfrifiadur

Talfyriad Japaneg o'r gair Saesneg "animation" ydy anime (Japaneg: アニメ ) ac mae'n cyfeirio'n benodol at animeiddiadau wedi'u cynhyrchu yn Japan.[1]

Mae'n deillio yn ôl i 1917,[2] a daeth yn ffasiynol iawn yn Japan ers hynny. Yn yr 1980au daeth yn ffasiynol drwy'r byd. Mae'n cael ei ddarlledu ar deledu, fideo, DVD a hyd yn oed yn y theatr.

Ceir dau fath: cartwnau wedi'u gwneud gyda llaw a rhai wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur.

Un esiampl o anime yw'r rhaglen Siapaneg "Sailor Moon". Mae'n sôn am bum merch sy'n stopio'r 'Negaverse' drwg rhag cymryd drosodd Tokyo.

Mae'r gair "Anime" yn tarddu o'r dywediad Ffrangeg dessin animé.[3]

Mae'r diwydiant anime yn cynnwys dros 430 o stiwdios, llawer yn enwau mawr: Studio Ghibli, Gainax a Toei Animation. Dim ond ychydig o'r farchnad domestig sydd ganddyn nhw ond talp enfawr o'r diwydiant DVD. Mae anime wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y deng mlynedd diwaetha. Mae anime Japan wedi cael ei gopio gan nifer o wledydd eraill.

Diffiniad[golygu]

Math o gelf ydy Anime, yn enwedig mewn animeiddiadau, ac mae'n cynnwys yr holl genres y sinema, ond mae o'n cael ei gam-alw yn genre ei hun.[4]:7 Yn Japan caiff y gair ei ddefnyddio am bob math o animeiddio drwy'r byd.[5] Mae geiriaduron Saesneg yn diffinio anime fel "animeiddiad o Japan" neu "math o animeiddio a sefydlwyd yn Japan".[6][7]

Dojikko ('merch afrosgo'): un math o gymeriad o fewn anime.

Mathau[golygu]

Mae llawer o anime wedi'i seilio ar fanga; dyma'r gwahanol fathau:

Hanes[golygu]

Llygaid anime - symbol o'r genre.

Cychwynodd anime ar ddechrau'r 20fed ganrif, pan grëodd cyfarwyddwyr o Japan nifer o animeiddiadau, gyda nifer o wledydd eraill yn dilyn: Ffrainc, yr Almaen, Rwsia a'r Unol Daleithiau America.[8] Y darn cyntaf i gael ei greu oedd yn 1917 – clip dau funud yn dangos samwrai yn ymarfer ei gleddyf ar ei darget.[9][10] Enw rhai o'r arlunwyr cyntaf ydy: Shimokawa Oten, Jun'ichi Kouchi, a Seitarō Kitayama.[11]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. anime - Diffiniad Saesneg allan o Merriam-Webster Online Dictionary
  2. Adalwyd 31 Rhagfyr 2009
  3. "Etymology Dictionary Reference: Anime accessdate=2007-09-13". Etymonline. http://www.etymonline.com/index.php?term=anime. 
  4. Poitras, Gilles (2000). Anime Essentials: Every Thing a Fan Needs to Know. Stone Bridge Press. tud. 7–115. ISBN 978-1-880656-53-2. 
  5. "Tezuka: The Marvel of Manga - Education Kit" (PDF). Art Gallery New South Wales. 2007. Archived from the original on August 30, 2007. http://web.archive.org/web/20070830033821/http://artgallery.nsw.gov.au/__data/page/9842/Tezuka_Kit_1.pdf. Adalwyd October 28, 2007. 
  6. "Anime Dictionary Definition". Dictionary.com. Archived from the original on November 2, 2006. http://dictionary.reference.com/browse/anime. Adalwyd October 9, 2006. 
  7. "Merriam-Webster:anime". Merriam-Webster. http://www.merriam-webster.com/dictionary/anime. Adalwyd November 18, 2010. 
  8. Schodt, Frederik L. (Reprint edition (Awst 18, 1997)). Manga! Manga!: The World of Japanese Comics. Tokyo, Japan: Kodansha International. ISBN 0-87011-752-1. 
  9. "Japan’s oldest animation films". ImprintTALK. 2008-03-31. http://imprinttalk.com/?p=1557. 
  10. "Historic 91-year-old anime discovered in Osaka". HDR Japan. 2008-03-30. Archived from the original on 2008-04-02. http://web.archive.org/web/20080402012234/http://www.hdrjapan.com/japan/japan-news/historic-91%11year%11old-anime-discovered-in-osaka/. Adalwyd 2008-05-12. 
  11. Yamaguchi, Katsunori; Yasushi Watanabe (1977). Nihon animēshon eigashi. Yūbunsha. tud. 8–11. 

Gweler hefyd[golygu]