Sinema

Oddi ar Wicipedia
Tu mewn i sinema fodern
Mae hon yn erthygl am yr adeilad. Defnyddir y gair i olygu crefft a diwydiant ffilm yn ogystal: gweler ffilm.

Adeilad pwrpasol ar gyfer dangos a gwylio ffilm yw sinema. Cafodd y ffilm gyntaf ar gyfer y cyhoedd ei dangos yn 1895 gan Y Brodyr Lumière ond am flynyddoedd dangosid ffilmiau mewn stafelloedd dros dro neu mewn ffeiriau. Does dim dwywaith mai'r 1920au a'r 1930au oedd 'Oes Aur' y sinema. Roedd y sinemau pwrpasol cyntaf yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, yn adeiladau digon plaen ond codid palasau gwych gyda'r blynyddoedd oedd yn medru dal rhai miloedd o bobl. Dirywiodd sinemâu yn y Gorllewin gyda dyfodiad y teledu, a chollwyd nifer ohonynt. Ofnwyd ar un adeg fod dydd y sinemau ar ben gyda dyfodiad fideo rad. Erbyn heddiw mae sinemau yn llai niferus ond yn aml maen' nhw'n sinemau amlsgrin lle gellir dangos sawl ffilm ar y tro.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am sinema
yn Wiciadur.