Y Gorllewin

Oddi ar Wicipedia

Y Gorllewin, neu'r Byd Gorllewinol, yw'r enw a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio'r gwledydd datblygedig yn gyffredinol mewn cyferbyniaeth â gweddill y byd.

Yn wreiddiol roedd yr enw yn golygu gwledydd democrataidd Gorllewin Ewrop a Gogledd America a'u cynghreiriaid mewn cyferbyniaeth â'r gwledydd comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop oedd yn aelodau o Gytundeb Warsaw, ynghyd â'r Undeb Sofietaidd, Tsieina a gwledydd comiwnyddol a lled-gomiwnyddol eraill, fel Ciwba a Gogledd Corea.

Erbyn heddiw mae'n tueddu i gael ei ddefnyddio mewn ystyr ehangach, llai diffiniedig, ac yn cynnwys gwledydd dwyreiniol fel Siapan am eu bod yn meddu nodweddion "Gorllewinol" amlwg fel democratiaeth a marchnadoedd rhydd. Mae nifer o gyn-wledydd Cytundeb Warsaw yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd a NATO erbyn hyn ac felly'n rhan o'r Gorllewin hefyd.

Roedd nifer o wledydd llai datblygedig neu niwtral yn ystyried eu hunain fel endidau y tu allan i'r drefn honno o "Ddwyrain" a "Gorllewin" ac yn sôn amdanyn' eu hunain fel y Trydydd Byd, ond erbyn heddiw cyfeirir atynt yn gyffredinol fel "y gwledydd sy'n dal i ddatblygu".

Darllen pellach[golygu | golygu cod]