Cytundeb Warsaw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cytundeb Warsaw
Aelodau Cytundeb Warsaw 1956-1968

Cynghrair milwrol oedd Cytundeb Warsaw. Fe'i sefydlwyd er mwyn diogelu'r aelod-wladwriaethau rhag bygythiad gan NATO (a sefydlwyd ym 1949) ar ôl i Orllewin yr Almaen ymuno â'r sefydliad hwnnw. Drafftiwyd y cytundeb gan Khrushchev ym 1955 ac fe'i arwyddwyd ar 14 Mai 1955 yn Warsaw.

Aelodau'r Cytundeb oedd:

Arwyddwyd y cytundeb gan bob un o wledydd Dwyrain Ewrop, heblaw am Iwgoslafia. Pwrpas y cytundeb oedd amddiffyn aelodau rhag ymosodiad o'r tu allan. Daeth y cytundeb i ben ar 31 Mawrth 1991 ar ôl cwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, ac fe'i ddiddymwyd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf ym Mhrâg. Gadawodd Albania'r cytundeb ym 1961 ar ôl i'w llywodraeth Stalinaidd ochri gyda Tsieina yn dilyn hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina.

Hanes[golygu]

Rheolwyd y cytundeb gan yr Undeb Sofietaidd, ac fe rwystrodd yr undeb y gwledydd eraill rhag gadael, er enghraifft yn ystod Chwyldro Hwngari ym 1956. Bwriadodd Hwngari adael y cytundeb i fod yn niwtral, ond daeth byddin yr Undeb Sofietaidd i'r wlad i atal y chwyldro rhag lwyddo.

Yn ystod Gwanwyn Prag ym 1968 aeth byddin Sofietaidd i Tsiecoslofacia er mwyn atal diwygiadau democrataidd yn y wlad. Felly, daeth polisi yr Undeb Sofietaidd ar gyfer Cytundeb Warsaw yn amlwg: sef, rhwystro pob aelod rhag troi yn wlad gyfalafol (Athrawiaeth Brezhnev).

Parhaodd y Rhyfel Oer am dros 35 o flynyddoedd, ond ni fu yr un frwydr rhwng gwledydd Cytundeb Warsaw a gwledydd NATO. Ym mis Rhagfyr 1988 datganodd Mikhail Gorbachev, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, athrawiaeth newydd yn lle Athrawiaeth Brezhnev. Ar ôl hynny gadawyd i bob aelod-wladwriaeth i ddilyn eu ffyrdd eu hunain. O ganlyniad, dechreuodd cyfnod o ddiwygiadau ym mhob un o'r gwledydd o 1989 ymlaen. Gadawodd nifer ohonyn nhw'r cytundeb bob yn ail er mwyn bod yn fwy annibynnol yn filwrol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd. O ganlyniad diddymwyd y cytundeb ar 1 Gorffennaf 1991.

Ar 12 Mawrth 1999 ymunodd y Weriniaeth Tsiec, Hwngari a Gwlad Pwyl â NATO. Ym mis Mawrth 2004 ymunodd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Romania a Slofacia hefyd (yn ogystal a Slofenia, a oedd yn rhan o Iwgoslafia cyn hynny ac felly ddim yn rhan o Gytundeb Warsaw).

Gweler hefyd[golygu]