Protestiadau Sgwâr Tiananmen (1989)

Oddi ar Wicipedia
Dyn y Tanc: mae'r ffotograff enwog yma'n ddangos protestiwr wnaeth stopio tanciau am dros hanner awr.

Yn y Ddinas Waharddedig, yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina y mae Sgwâr Tiananmen neu i roi'r enw brodorol iddi: 天安门广场. Ystyr Tiananmen ydy 'Gât Heddwch y Nef'. Mae'n glamp o sgwâr - dros 100 erw o ran maint.

Cafwyd cyfres o brotestiadau gan rai myfyrwyr yno rhwng 15 Ebrill 1989 a 4 Mehefin 1989 ac fe'i gelwir yn brotestiadau Sgwâr Tiananmen 1989. Protest myfyrwyr ac ysgolheigion ydoedd mewn gwirionedd, dros ddemocratiaeth, a ddechreuodd yn ddigon tawel a heddychlon. Yn ystod yr un flwyddyn gwelwyd nifer o lywodraethau comiwnyddol eraill yn dymchwel ledled y byd.

Dechreuodd y protestiadau yn sgil marwolaeth Hu Yaobang a oedd o blaid marchnad rydd, democratiaeth ac yn erbyn systemau llwgr. Roedd y protestwyr yn awyddus i alaru amdano ac erbyn noswyl ei angladd, roedd 100,000 o bobl wedi ymgasglu yn Sgwâr Tiananmen. Nid oedd gan y protestiadau un achos penodol, nac ychwaith un arweinydd canolog. Galwodd pobl a oedd wedi'u dadrithio gan unbeniaeth y llywodraeth am farchnad rydd a newidiadau economaidd. Roedd nifer o'r protestwyr hefyd yn galw am ddiwygio democratiaeth yn strwythur y llywodraeth. Canolbwynt y protestiadau oedd Sgwâr Tiananmen yn Beijing, er gwelwyd protestiadau mawrion eraill mewn dinasoedd mewn rhannau eraill o Tsieina, gan gynnwys Shanghai, a oedd yn heddychlon trwy gydol y protestiadau.

Parhaodd yr ymgyrch am saith wythnos o farwolaeth Hu ar y 15fed o Ebrill, nes i danciau'r wlad rolio i mewn gan ddechrau saethu'n ddidrugaredd ar y 4ydd o Fehefin. Yn ôl llywodraeth y wlad, lladdwyd 241 o fyfyrwyr a milwyr ac anafwyd 7,000. Yn ôl adroddiadau cynnar gan aelodau o'r Groes Goch Tseinïaidd, dywedwyd fod 2,600 o farwolaethau, ond ers hynny mae'r Groes Goch Tsienïaidd wedi gwadu iddynt ddarparu'r ffigyrau hyn.[1] Mae'n debyg na chawn byth wybod y niferoedd cywir.

Ar ôl yr holl drais, arestiodd y llywodraeth nifer o bobl er mwyn atal y protestwyr a'u cefnogwyr, a thargedwyd protestiadau eraill dros Tsieina gyfan. Gwaharddwyd y wasg ryngwladol rhag mynd i'r wlad a rheolwyd yr hyn a ddarlledwyd ar y cyfryngau. Cafwyd gwared ar aelodau'r Blaid Gomiwnyddol a oedd wedi cefnogi'r protestiadau'n gyhoeddus drwy eu harestio yn eu cartrefi. Beirniadodd y gymuned ryngwladol y Blaid Gomiwnyddol yn llym am y modd treisgar yr ataliwyd y protestiadau yn Sgwâr Tiananmen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]