ASEAN

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aelodau Asean

Undeb rhyngwladol economaidd a gwleidyddol o wledydd yn Ne-ddwyrain Asia yw ASEAN (o'r Saesneg Association of Southeast Asian Nations). Ffurfiwyd ASEAN ar 8 Awst 1967 gan Indonesia, Malaysia, Y Ffilipinau, Singapore a Gwlad Thai. Ers hynny, mae Brunei, Cambodia, Laos, Myanmar a Fietnam wedi ymuno.

Mae'r undeb yn anelu at hyrwyddo tŵf economaidd a datblygiad cymdeithasol a diwylliannol ymysg ei aelodau.