Gorllewin yr Almaen

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Gwlad ffederal yng nghorllewin Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer oedd Gorllewin Yr Almaen (Almaeneg: Westdeutschland). Ei enw ffurfiol oedd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen. Cafodd ei ffurfio ym Mai 1949 a daeth i ben gydag ailuno'r Almaen yn Hydref 1990, pan doddwyd Dwyrain yr Almaen a daeth ei daleithiau yn rhan o Weriniaeth Ffederal yr Almaen, gan ddod â 40 mlynedd o Almaen rhanedig i ben. Ers uno'r ddwy wlad yn 1990, yr enw a arferid amlaf ydy'r Almaen.

Ffurfiwyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen yn wreiddiol allan o dair ardal gorllewinol neu'r 'Allied Zones of occupation' a reolwyd gan yr UDA, Y Deyrnas Unedig a Ffrainc. Detholwyd Bonn yn brifddinas yn hytrach na Gorllewin Berlin.

Rheolwyd y bedwaredd ardal gan yr Undeb Sofietaidd a galwyd hi yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDA: sef, Deutsche Demokratische Republik, DDR) gyda'i brifddinas yn Nwyrain Berlin.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

cy:Gorllewin yr Almaen]

Offer personol