Y Mudiad Amhleidiol
Oddi ar Wicipedia
| Y Mudiad Amhleidiol | |
| Pencadlys | Canolfan Gydgysylltu yn Ninas Efrog Newydd |
|---|---|
| Aelodaeth | 120 o aelodau 17 o wledydd arsyllwyr |
| Prif gorff penderfynu | Cynhadledd Penaethiaid Gwladwriaethau y Gwledydd Amhleidiol |
| Cadeirydd | |
| Ysgrifennydd Cyffredinol | Mohamed Hussein Tantawi (de facto) |
| Sefydlwyd | 1961 |
| Gwefan | csstc.org |
Grŵp rhyngwladol yw'r Mudiad Amhleidiol o wladwriaethau nad yw'n ystyried eu hunain wedi'u hymochri'n ffurfiol ag unrhyw floc grym, neu yn erbyn unrhyw floc. Mae'n cynnwys Belarws, Uzbekistan, ac holl aelodau Grŵp y 77, ac eithrio'r rhai sydd yn arsyllwyr yn y Mudiad yn ogystal â gwledydd Oceania (ar wahân i Papua Guinea Newydd a Vanuatu, sydd yn aelodau).
Sefydlwyd y sefydliad yn Beograd ym 1961 gan ymdrechion Josip Broz Tito, Arlywydd Iwgoslafia, Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India, Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft, Kwame Nkrumah, Arlywydd Ghana, a Sukarno, Arlywydd Indonesia. Eu bwriad oedd i hyrwyddo trydydd ddewis i wladwriaethau'r Trydydd Byd ar wahân i flociau'r Dwyrain a'r Gorllewin yn y Rhyfel Oer.