Jawaharlal Nehru

Oddi ar Wicipedia
Jawaharlal Nehru
Ganwyd14 Tachwedd 1889 Edit this on Wikidata
Prayagraj Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 1964 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Delhi Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylPrayagraj, Delhi Newydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Raj Prydeinig, India, Dominion of India Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, hunangofiannydd, bargyfreithiwr, undebwr llafur, ymladdwr rhyddid Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Defence (India), Prif Weinidog India, member of the Lok Sabha, Minister of Finance, Minister of External Affairs, Member of the Constituent Assembly of India, member of the Negotiating Committee of the Constituent Assembly of India, member of the Committee on Subjects Assigned to the Union Centre Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGlimpses of World History, The Discovery of India, Letters from a Father to His Daughter Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadBertrand Russell Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCyngres Genedlaethol India Edit this on Wikidata
TadMotilal Nehru Edit this on Wikidata
MamSwarup Rani Nehru Edit this on Wikidata
PriodKamala Nehru Edit this on Wikidata
PlantIndira Gandhi Edit this on Wikidata
LlinachNehru–Gandhi family Edit this on Wikidata
Gwobr/auBharat Ratna, Bintang Jasa, doctor honoris causa of Keiō University Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Jawaharlal Nehru (Hindi: जवाहरलाल नेहरू) (14 Tachwedd 188927 Mai 1964) yn un o brif arweinyddion y mudiad i ennill annibyniaeth i India ac yn ddiweddarach yn Brif Weinidog cyntaf India annibynnol. Weithiau gelwid ef yn Pandit Nehru; mae "Pandit" yn golygu "ysgolhaig".

Ganed Jawaharlal Nehru yn ninas Allahabad, ger glannau Afon Ganga ac yn awr yn nhalaith Uttar Pradesh. Roedd ei dad, Motilal Nehru, yn fargyfreithiwr cefnog. Yn 15 oed gyrrwyd Nehru i Loegr i Ysgol Harrow; yn ddiweddarach astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt cyn cael ei hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain. Wedi dychwelyd i India, priododd Kamala Kaul ar 8 Chwefror 1916. Y flwyddyn wedyn ganwyd eu hunig blentyn, Indira Priyadarshini, yn ddiweddarach Indira Gandhi. Dechreuodd Nehru gymeryd diddordeb yn y mudiad cenedlaethol, a daeth dan ddylanwad Mahatma Gandhi.

Erbyn 1929 roedd yn un o brif arweinwyr y mudiad cenedlaethol, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau. Bu farw Kamala Nehru yn 1938. Pan enillodd India annibyniaeth yn 1947, daeth Nehru yn Brif Weinidog. Dan ei arweiniad ef, enillodd Plaid y Gyngres fuddugoliaeth ysgubol yn etholiad 1952. Dan Nehru, dilynodd India bolisiau sosialaidd. Enillwyd buddugoliaeth arall yn etholiad 1957, ac eto yn 1962 ond gyda mwyafrif llai. Ar y llwyfan ryngwladol, roedd yn arweinydd blaenllaw o'r Mudiad Amhleidiol. Ym Mai 1964, dioddefodd Nehru drawiad ar y galon, a bu farw ar 27 Mai. Yn unol a'r arferiad Hindwaidd, llosgwyd ei gorff ger glan Afon Yamuna yn Delhi, ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr.

Yn ddiweddarach daeth ei ferch, Indira, yn Brif Weinidog, a bu ei ŵyr Rajiv Gandhi yn Brif Weinidog hefyd yn ei dro.