Mahatma Gandhi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mahatma Gandhi yn 1931

Roedd Mohandas Karamchand Gandhi (2 Hydref 1869 – 30 Ionawr 1948) (Devanagari: मोहनदास करमचन्द गांधी, Gujarati મોહનદાસ કરમચંદ ગાંધી) yn un o arweinwyr India yn yr ymdrech i ennill rhyddid oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig, ac hefyd yn arloeswr ymdrechu yn ddi-drais. Mae ei athroniaeth wedi dylanwadu ar nifer o arweinwyr ymgyrchoedd am hawliau, er enghraifft Martin Luther King a Nelson Mandela. Adnabyddir ef fel rheol fel Mahatma Gandhi; ystyr Mahatma yw "Eneidfawr".

Bywyd cynnar[golygu]

Ganed Gandhi i deulu Hindŵaidd yn Porbandar yn nhalaith Gujarat, India yn 1869. Yr oedd ei dad yn dal swydd uchel yn Porbandar. Priodwyd ef yn 15 oed i Kasturba Makharji, hithau yn 13 oed. Caswant bedwar mab: Harilal, Manilal, Ramdas a Devdas Gandhi. Addysgwyd ef yn Porbandar ac yna yn Rajkot a Bhavnagar. Dymunai ei rieni iddo fod yn fargyfreithiwr a gyrrwyd ef i Lundain yn 19 oed i'w hyfforddi yn y gyfraith.

Yr oedd Gandhi wedi addo i'w fam cyn cychwyn i Lundain na fyddai'n cyffwrdd cig nag alcohol tra byddai yno. Ymunodd a Chymdeithas y Llysieuwyr, a daeth rhai o aelodau'r gymdeithas yma ag ef i gysylltiad a'r Theosophyddion a gafodd gryn ddylanwad arno, gan ei annog i astudio'r Bhagavad Gita.

Dychwelodd i India i geisio gwaith fel cyfreithiwr, ond heb lawer o lwyddiant. Derbyniodd gynnig gan gwmni Indiaidd yn Natal, De Affrica i fynd yno fel cyfreithiwr.

Gandhi yn Ne Affrica[golygu]

Yn Ne Affrica y dechreuodd Gandhi gymeryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Un o'r digwyddiadau a ysbrydolodd hyn oedd cael ei daflu oddi ar drên yn Pietermaritzburg pan ar daith i Pretoria. Yr oedd ganddo diced dosbarth cyntaf, ond pan wrthwynebodd un o'r teithwyr gwyn rannu'r dosbarth cyntaf gydag Indiad, dywedwyd wrtho am symud i'r trydydd dosbarth. Gwrthododd Gandhi, a thaflwyd ef o'r trên.

Dechreuodd ymgyrchu yn erbyn rhai o'r deddfau oedd yn cadw'r boblogaeth Indiaidd yn Ne Affrica mewn safle israddol. Yr oedd senedd Natal yn bwriadu pasio deddf i atal Indiaid rhag pleidleisio, a chymerodd Ganhi ran amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn y ddeddf. Ni lwyddwyd i atal y ddeddf yma rhag dod i rym, ond aeth ymlaen i ymgyrchu ar faterion eraill, gan sefydlu Cyngres Indiaidd Natal yn 1894. Yn 1906 daeth llywodraeth y Transvaal a deddf ymlaen i orfodi pob Indiad i gofrestru, a bu Gandhi eto'n amlwg yn gwrthwynebu hyn, gan lwyddo i berswadio'r llywodraeth i gymrodeddu. Yr adeg yma y datblygodd ei syniadau am satyagraha neu "ffyddlondeb i'r gwirionedd". Heblaw'r Bhagavad Gita, cafodd syniadau Lev Tolstoy ddylanwad mawr arno.

Gandhi yn India (1914–1947)[golygu]

Dychwelodd Gandhi i India yn 1914. Yn 1918, dechreuodd ymgyrch dros ffermwyr tlawd Champaran yn nhalaith Bihar, oedd yn cael eu gorfodi i dyfu indigo a chnydau tebyg yn hytrach na thyfu bwyd i'w teuluoedd, gan arwain at newyn. Yr adeg yma y galwyd ef yn Mahatma am y tro cyntaf. Yn dilyn hyn pasiwyd y Rowlatt Act yn 1919, oedd yn rhoi hawl i'r llywodraeth garcharu gwrthwynebwyr heb achos llys. Yn y terfysgoedd a ddilynodd hyn, lladdwyd 179 o brotestwyr heb arfau gan filwyr Prydeinig yn Amritsar.

Yn Ebrill 1920, etholwyd Gandhi yn arlywydd yr "All-India Home Rule League", a than ei arweiniad ef cytunodd y Gyngres Indiaidd ar y nôd o swaraj (anibyniaeth). Yr oedd cynlluniau Gandhi o ymgyrchu di-drais yn cynnwys gwrthod prynu nwyddau Prydeinig a cheisio bod yn hunan-gynhaliol. Treuliai Gandhi ei hun oriau yn nyddu ar droell i osgoi prynu brethyn Prydeinig. Cafodd hyn gryn lwyddiant, ond pan fu terfysg yn Uttar Pradesh yn 1922 ataliodd Gandhi yr ymgyrch. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn fuan wedyn a chafodd ddedfryd o chwe blynedd o garchar. Rhyddhawyd ef oherwydd afiechyd yn 1924

Yn 1930 dechreuodd ar ei ymgyrch enwocaf, y "Daith Halen", 248 milltir o Ahmedabad i Dandi yn Gujarat i gasglu halen o'r môr, oedd yn torri deddf oedd yn gwahardd i Indiaid wneud eu halen eu hunain. Carcharwyd dros 60,000 o bobl yn ystod yr ymgyrch yma.

Gandhi yn ystod y "Daith Halen" (1930)

Yr oedd Gandhi hefyd yn ymgyrchu ar ran y Dalit, y bobl oedd islaw y sysyem caste yn yr India. Arweiniai ymgyrchoedd o'i ashram yn Sevagram lle roedd yn byw bywyd syml gyda'i ddilynwyr.

Ddechrau'r 1940au dechreuodd ymgyrch newydd gyda'r arwyddait "Quit India!". Carcharwyd ef eto yn 1942 yngyd ag arweinwyr eraill y Gyngres. Tra'r oedd yn y carchar bu farw ei wraig Kasturbai. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd yr oedd yn amlwg fod Prydain yn barod i adael India. Yn groes i ddymuniad Gandhi, oedd yn credu y dylai Mwslimiaid a Hindwiaid fyw gyda'i gilydd fel brodyr, cytunwyd i rannu'r wlad yn India a Pakistan. Cyhoeddwyd anibyniaeth India yn 1947.

Yn Ionawr 1948 yr oedd Gandhi ar ei ffordd i gyfarfod gweddi yn Delhi pan saethwyd ef yn farw gan Nathuram Godse, aelod o grwp Hindŵaidd a gredai fod Gandhi yn rhy ffafriol i'r Mwslimiaid. Llosgwyd ei gorff yn Delhi ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr, a gwasgarwyd ei ludw ar y môr.

Dywediadau gan Gandhi[golygu]

Ar effaith handwyol yr iaith Saesneg ar ddiwylliant cynhenid India:

"Mae pobl fel pe baen nhw wedi meddwi ar win y Saesneg. Maen nhw'n siarad Saesneg yn eu clybiau, yn eu tai, ymhob man. Maen nhw'n colli eu hunaniaeth genedlaethol." [1]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
  • M.K. Gandhi (1929) An Autobiography, or the Story of My Experiments with Truth