Trawiad ar y galon

Oddi ar Wicipedia
Trawiad ar y galon
Enghraifft o'r canlynolachos marwolaeth, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y rhydwelïau coronaidd, ischemia, cnawdnychiad, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPoen y frest, necrosis edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Aflonyddwch yn y cyflenwad gwaed i gyhyr y galon yw trawiad ar y galon neu cnawdnychiad myocardiaidd.

Y rheswm amlaf am drawiad ar y galon yw rhwystr yn y rhydwelïau coronaidd, y rhydwelïau sy'n arwain o siambrau'r galon at gyhyr y galon, neu'r myocardiwm. Achosir y rhwystr gan haenau o golesterol sy'n adeiladu yn y rhydwelïau, ac yn ffurfio clot.

Mae difrifwch y trawiad yn dibynnu ar leoliad union y clot; os mai i ran fechan o'r cyhyr y rhwystrir cyflenwad y gwaed, gallai'r trawiad ar y galon fod yn fach, heb i'r claf wybod amdano. Ond os rhwystrir cyflenwad y gwaed i ran fwy o'r cyhyr, gall arwain yn gyflym at arest cardiaidd a marwolaeth.

Mae dros 300,000 o bobl yn dioddef o drawiad ar y galon bob blwyddyn yn y DU, ac mae hanner ohonynt yn marw, ond gallai mwy o fywydau gael eu harbed trwy driniaeth cyflym â CPR, diffibriliad a meddyglynnoedd cardiadd. Felly mae GIG Cymru (a gwasanaethau eraill) yn cynghori pobl i alw am ambiwlans pan geir y tybiaeth cyntaf o drawiad ar y galon. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • diffyg anadl
  • golwg afliwiog neu lwyd, oerni chwysu,
  • poen yng nghanol y frest, gall ymestyn i'r breichiau, i lawr i'r bol neu i fyny i'r gwar
  • chwydu
  • cyfog neu deimlad cyffredinol o salwch
  • ymdeimlad enbyd o fod marwolaeth gerllaw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Methiant y galon
Calonnau Cymru