Bertrand Russell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bertrand Russell ym 1907

Athronydd, Mathemategydd ac awdur oedd Bertrand Arthur William Russell, 3ydd Iarll Russell (18 Mai 18722 Chwefror 1970).

Fe ddaeth o deulu o uchelwyr Saesneg, ond yng Nghymru y cafodd ei eni, yn Nhryleg, Sir Fynwy, ac yng Nghymru hefyd y bu farw, ym Mhlas Penrhyn, Penrhyndeudraeth (yn yr hen Sir Feirionydd).

Yn ogystal a'i waith academaidd, roedd yn ymgyrchu'n gyhoeddus ar sawl pwnc. Roedd yn sosialydd ac yn heddychwr, ac fe gyhoeddai safbwynt rhyddfrydol radicalaidd.

Cyfnod ym Mhenryndeudraeth[golygu]

Yn y 1960au, ymsefydlodd ym Mhlas Penrhyn, Penrhyndeudraeth, yn rhannol oherwydd ei edmygedd o'r bardd Percy Bysshe Shelley a fu'n aros yn yr un ardal.[1] Roedd yn rhentu (nid yn berchen ar) y Plas yn ogystal â fflat yn Chelsea,[2] yn unol â'i daliadau asgell chwith. Ymgyrchu dros heddwch oedd ei brif weithgarwch yn ei gyfnod yno, gan gynnwys ei waith dros y Russel Peace foundation a sefydlodd ym 1962.[3] Ralph Schoeneman oedd ei ysgrifennydd hyd fis Rhagfyr 1969; gaeth ei ymddiswyddo gan fod ei weithgarwch yn or-radicalaidd hyd yn llygaid Russell. Ar 24 Hydref 1962, wrth i'r newyddiadurwr Glyn Russell Owen ymweld â Russell ym Mhlas Penrhyn, daeth newyddion fod argyfwng taflegrau Ciwba yn dechrau dadmer, gan beri i Russell a Schoeneman, a fu'n ymgyrchu'n galed am ddatrysiad heddychlon i'r sefyllfa, ddawnsio'n wyllt am rai munudau.[4] Bu farw o'r ffliw ar 2 Chwefror 1970 ym mhlas Penrhyn. Cafodd ei amlosgi ym Mae Colwyn, heb na seremoni crefyddol na blodau,[5] yn unol â'i daliadau anffyddiol. Gwasgarwyd ei weddillion ar fynydd yng Nghymru.

Bywyd teuluol[golygu]

Gwragedd[golygu]

Plant[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • German Social Democracy (1896)
  • An Essay on the Foundations of Geometry (1897)
  • A Critical Exposition of the Philosophy of Leibniz (1900)
  • The Principles of Mathematics (1903)
  • Philosophical Essays (1910)
  • Principia Mathematica (1910-13) (gyda Alfred North Whitehead)
  • The Problems of Philosophy (1912)
  • Our Knowledge of the External World as a Field for Scientific Method in Philosophy (1914)
  • Principles of Social Reconstruction (1916)
  • Justice in War-time (1916)
  • Political Ideals (1917)
  • Mysticism and Logic and Other Essays (1918)
  • Roads to Freedom: Socialism, Anarchism, and Syndicalism (1918)
  • Introduction to Mathematical Philosophy (1919)
  • The Practice and Theory of Bolshevism (1920)
  • The Analysis of Mind (1921)
  • The Problem of China (1922)
  • The Prospects of Industrial Civilization (1923)
  • The ABC of Atoms (1923)
  • Icarus, or the Future of Science (1924)
  • The ABC of Relativity (1925)
  • What I Believe (1925)
  • On Education, Especially in Early Childhood (1926)
  • The Analysis of Matter (1927)
  • An Outline of Philosophy (1927)
  • Why I Am Not a Christian (1927)
  • Sceptical Essays (1928)
  • Marriage and Morals (1929)
  • The Conquest of Happiness (1930)
  • The Scientific Outlook (1931)
  • Education and the Social Order (1932)
  • Freedom and Organization, 1814–1914 (1934)
  • In Praise of Idleness (1935)
  • Religion and Science (1935)
  • Which Way to Peace? (1936)
  • The Amberley Papers: The Letters and Diaries of Lord and Lady Amberley (1937)
  • Power: A New Social Analysis (1938)
  • An Inquiry into Meaning and Truth (1940)
  • History of Western Philosophy (1945)
  • Human Knowledge: Its Scope and Limits (1948)
  • Authority and the Individual (1949)
  • Unpopular Essays (1950)
  • New Hopes for a Changing World (1951)
  • The Impact of Science on Society (1952)
  • Satan in the Suburbs and Other Stories (1953)
  • Human Society in Ethics and Politics (1954)
  • Nightmares of Eminent Persons and Other Stories (1954)
  • Portraits from Memory and Other Essays (1956)
  • Understanding History and Other Essays (1958)
  • Common Sense and Nuclear Warfare (1959)
  • My Philosophical Development (1959)
  • Wisdom of the West (1959)
  • Fact and Fiction (1961)
  • Has Man a Future? (1961)
  • Essays in Skepticism (1963)
  • Unarmed Victory (1963)
  • War Crimes in Vietnam (1967)
  • The Autobiography of Bertrand Russell (1967-69)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Yr herald Cymraeg, Ionawr 29, 2005
  2. ibid
  3. ibid
  4. ibid
  5. ibid

1