Penrhyndeudraeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ar arfordir gogledd eithaf Meirionnydd, Gwynedd yw Penrhyndeudraeth, gyda'r Traeth Mawr a'r Traeth Bach ar y naill ochr iddo gydag Afon Glaslyn yn ei wahanu oddi wrth Eifionydd.

Hanes[golygu]

Cynhanes[golygu]

Mae nifer o olion ieithyddol Hen Gymraeg i'w weld yn enwau lleoedd ardal Penrhyndeudraeth e.e. 'Pont Briwet' (Briwet: o'r gair Brythoneg *Brued 'pont').[1]

Ceir olion Cytiau Gwyddelod Ty'n y Berllan gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar[golygu]

Y mae arwyddocad a phwysigrwydd hanesyddol hefyd i'r pentref. Yng nghyfrifon gweision Edward I, brenin Lloegr, tra'n adeiladu Castell Harlech, gwelir sawl cyfeiriadau at drigolion cefnog y pentref. Yn ddiweddarach, bu gwŷr a gwragedd o bwysigrwydd ac arwyddoacad cenedlaethol yn tramwyo ei strydoedd. Yn hen blasty'r Hendre (sydd wedi'i leoli wrth Ysbyty Bron y Garth) yn 1648 fe anwyd Humphrey Humphreys, esgob Bangor a Henffordd yn olynol. Roedd Humphreys yn esgob diwygiedig effeithiol ac yn Gymro twymgalon: yn ôl Edward Lhuyd ef oedd Cymro mwyaf ei oes. Roedd yn achyddwr, ysgolhaig a Christion nodedig. Claddwyd ei rieni - Richard Humphreys a Margaret Wynn (o deulu Cesailgyfarch, Penmorfa) ym mynwent hen eglwys Llanfrothen. Bu farw Humphreys tra'n esgob Henffordd yn 1712. Gwelir un o greiriau'r teulu yn Eglwys y Drindod Sanctaidd Penrhyndeudraeth: yno y mae hen gist dderw a gyflwynodd Richard Humphreys i Eglwys Llanfrothen tra'n warden arni yn 1690.

Y cyfnod diweddar[golygu]

Boston Lodge, Penrhyndeudraeth.

Ni fu Penrhyndeudraeth erioed yn bentref crefyddol iawn. Gwelwyd y Methodistiaid yn sefydlu eglwysi yn y pentref yn gynnar yn hanes y mudiad gyda seiadau yn cael eu sefydlu mewn myrddunod fel Cae'r Gof a Gelli Gwiail. Y mae hanes diddorol a chyffrous iawn am ddiwygwyr megis Daniel Rowland yn cynnal oedfaon yn Nhyddyn Isaf a'r bardd a'r cymeriad hynod Dafydd Siôn Siâms yn melltithio'r grefydd newydd yn gyhoeddus cyn cael ohono droedigaeth. Fflangellodd y Methodistiaid yn ddidrugaredd a hynny cyn iddo losgi ei holl weithiau barddol beirniadol mewn coelcerth cyhoeddus ar sgwar y pentref. Mae cwpan cymun gwreiddiol y Methodistiaid hyn i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn wreiddiol, roedd y pentref mewn dau blwyf, sef plwyfi Llanfrothen a Llandecwyn a hynny cyn i'r plwyf newydd gael ei greu ym 1859.

Am yn agos i dri chwarter canrif gwaith ffrwydiadau Cwcs a fu'n asgwrn cefn economi'r pentref: yn ddiweddarach daeth atomfa Trawsfynydd â gwaith i'w gweithwyr. Yn hanesyddol, dibynnai'r boblogaeth ar gyflogaeth a gynigiwyd gan ddiwydiant llechi Blaenau Ffestiniog a'r allforio a mewnforio deunydd crai a fyddai'n mynd drwy borthladd prysur Porthmadog. Ar lafar gwlad gelwid y pentref yn 'Penrhyn Cocos' a hynny oherwydd diwydiant pwysig casglu cocos a ddigwyddai yn yr oes o'r blaen.

Cymraeg[golygu]

Pentref Cymraeg ei iaith yw Penrhyndeudraeth a chlywir y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol gan bobl o bob oed. Yn 2001 roedd 76% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith Gymraeg.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Penrhyndeudraeth (pob oed) (2,150)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penrhyndeudraeth) (1,568)
  
75.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penrhyndeudraeth) (1542)
  
71.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Penrhyndeudraeth) (337)
  
36.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Natur[golygu]

Rhwng y pentref a Phont Briwer, ar hen safle Cookes Explosives Ltd, mae gwarchodfa natur Gwaith Powdwr, sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Oriel luniau[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Kenneth Jackson, Language and History in Early Britain.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.