Y Felinheli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Coordinates: 53°10′59″N 4°12′36″W / 53.183°N 4.210°W / 53.183; -4.210

Y Felinheli
Y Felinheli is located in Gwynedd
Y Felinheli

Y Felinheli Gwynedd
Poblogaeth 2,081 
Cyfeirnod grid yr AO SH525675
Sir Gwynedd
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Y FELINHELI
Rhanbarth cod post LL56
Cod deialu 01248
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Caernarfon
Cynulliad Cymru Arfon
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd

Pentref a chymuned ar lan y Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon yng Ngwynedd yw'r Felinheli. Mae'r boblogaeth oddeutu 2,000.

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae canran y siaradwyr Cymraeg yn y Felinheli yn 72%, gyda'r canran fwyaf yn yr oedran 5-9 mlwydd oed, sef 97.8%. Mae cymdeithas Gymraeg gref yma, gyda'r rhan fwyaf o weithgareddau'r pentref yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Datblygodd yn wreiddiol fel porthladd yn cludo llechi o chwarel Dinorwig, ac yn sgil hynny, fe fagwyd yr enw 'Port Dinorwic', ond nid yw'r enw'n cael ei ddefnyddio bellach mewn unrhyw gylch. Cysylltwyd y chwarel â'r pentref gan reilffordd Padarn.

Y cei a'r machlud.

Mae'r gymuned cychio a hwylio yn y pentref yn un fawr. Mae gan y pentref angorfeydd, marina ac i ychwanegu at hynny, mae gan y Felinheli busnesau morwrol o bob math; mae'r rhain yn cynnwys busnesau taclu, crewyr hwyliau a buarth cychod. Y mae gan y pentref hefyd rywfaint o dai haf. Prysur a bywiog yw'r clwb hwylio hefyd, gyda chystadlaethau dingis yn cael eu cynnal ar brynhawniau Sadwrn a Mercher a nosweithiau Gwener.

Adeiladwyd ffordd osgoi ym 1993/'94, ac yn sgil hynny, mae wedi lleihau'r broblem draffig a oedd y bodoli cyn hynny.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Felinheli (pob oed) (2,284)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Felinheli) (1,407)
  
64.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Felinheli) (1509)
  
66.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Felinheli) (316)
  
31.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

St Mair[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Cysylltiadau Allanol[golygu]