Minffordd (Penrhyndeudraeth)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gorsaf Minffordd.

Mae Minffordd yn bentref ar y briffordd A487 rhwng Porthmadog a Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd. Saif ar ochr ddwyreiniol y Cob, sy'n ei gysylltu a Phorthmadog. Mae pentref Portmeirion ychydig i'r de-orllewin.

Datblygodd y pentref fel man i groesi'r Traeth Mawr cyn adeiladu'r cob; gellid croesi ar droed pan oedd y llanw i lawr. Mae Rheilffordd y Cambrian a Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg trwy'r pentref, ac yng ngorsaf Minffordd y gellir newid o un i'r llall. Yn 1812 daeth y pentref i sylw cenedlaethol pan lofruddiwyd Mary Jones, morwyn yn fferm Penrhyn Isaf, gan Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr).

Dolenni allanol[golygu]