Fron-goch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref i'r gogledd o'r Bala yng Ngwynedd yw Fron-goch, lle mae'r B4501 yn gadael y briffordd A4212 i Drawsfynydd. Mae Afon Tryweryn yn rhedeg heibio'r pentref.

Sefydlodd R.J. Lloyd Price Rhiwlas ei Welsh Whisky Distillery Company yn y pentref ym 1887. Cynhyrchodd y cwmni byrhoedlog ei poteli olaf o wisgi ym 1903 a chaewyd y ddistyllfa ym 1910.

Yn ystod rhan gyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd carcharorion rhyfel Almaenig eu cadw yn adeilad y ddistyllfa wedi'u gadael. Ond yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon ym 1916 cafodd yr Almaenwyr eu disodli gan dros 1,800 o wirfoddolwyr yr Irish Republican Brotherhood (yr IRA yn ddiweddarach).

Ymhlith carcharorion y gwersyll yr oedd Michael Collins ac Arthur Griffith, Dick Mulcahy, Tomás MacCurtain, Terence MacSwiney a Seán T. O'Kelly. Bu y carchar yn gyfle i'r IRA ddatblygu eu syniadau chwyldroadol, ac awgrymir fod Michael Collins a'i gymrodyr wedi rhoi gwersi mewn ymladd a milwriaeth i'w gyd-garcharorion. Daeth llawer o gyn-garcharorion Fron-goch yn arweinwyr y rhyfel dros annibyniaeth Iwerddon. Daethpwyd i adnabod Fron-goch fel "Prifysgol Sinn Féin", neu "Brifysgol y Chwyldro" (ollscoil na réabhlóide).

Llyfryddiaeth[golygu]