Llanymawddwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanymawddwy

Mae Llanymawddwy yn bentref yng Ngwynedd sydd ychydig i'r gogledd o bentref mwy Dinas Mawddwy, ar y ffordd fechan sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn tros Fwlch y Groes. Mae Afon Dyfi, sy'n tarddu ar Aran Fawddwy gerllaw, yn llifo heibio'r pentref. Daw'r enw o gwmwd Mawddwy. Yr adeilad mwyaf nodedig yw Eglwys Sant Tydecho, lle mae traddodiad canu'r Plygain yn parhau.

Eglwys Sant Tydecho

Yn Llanymawddwy y ganed Alfred George Edwards, a ddaeth yn Archesgob cyntaf Cymru, a bu'r llenor a geiriadurwr Daniel Silvan Evans yn rheithor yma.

Cysylltiadau allanol[golygu]

Llun Eglwys Sant Tydecho, Llanymawddwy, o "Casglu'r Tlysau