Sarn Mellteyrn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sarn Mellteyrn

Pentref bychan yn Llŷn yw Sarn Mellteyrn (ffurf amgen: Sarn Meyllteyrn), a leolir ar y B4413 rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Aberdaron i'r gorllewin, ar ben gorllewinol penrhyn Llŷn. Y pentrefi cyfagos yw Bryncroes a Botwnnog i'r de a Tudweiliog i'r gogledd.

Rhed afon Soch drwy'r pentref ar ei ffordd i Abersoch. Mae'r pentref yn gorwedd mewn cwm bychan gyda Mynydd Rhiw i'r de, Mynydd Cefnamlwch i'r gogledd a bryn Carn Fadryn i'r gogledd-ddwyrain.

Sarn Mellteyrn tua 1885.

Mae tafarn y Tŷ Newydd yn y pentref yn llwyfan boblogaidd i gerddoriaeth Gymraeg. Ymysg y bandiau sy'n chwarae yno'n aml mae Cowbois Rhos Botwnnog, sydd â chysylltiad agos â'r ardal. Mae'n debyg mai Tŷ Newydd oedd man geni y label recordiau Sbrigyn Ymborth.