Carn Fadryn
| Carn Fadryn (Garn fadryn) (Penrhyn Llŷn) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Carn Fadryn o Fronheulog, Buan. |
| Uchder (m) | 371 |
| Uchder (tr) | 1217 |
| Amlygrwydd (m) | 343 |
| Lleoliad | Pen Llŷn |
| Map topograffig | Landranger 123; Explorer 253 |
| Cyfesurynnau OS | SH278351 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) |
Carn Fadryn (neu Carn Fadrun), sy'n fynydd 1,217 troedfedd (371m), yw'r pwynt uchaf yng ngorllewin Llŷn. Tua hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r copa mae copa llai Garn Bach; cyfeiriad grid SH278351. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 28 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae'n lle braf am olygfa dros benrhyn Llŷn, yn cynnwys tri chopa Yr Eifl i'r gogledd-ddwyrain a mynyddoedd Eryri i'r dwyrain. Mae pen y mynydd yn wastad ond mae ei lethrau'n syrth a chreigiog. Mae creigiau Carn Fadryn o darddiad fwlcanig. Wrth ei droed mae pentref Llaniestyn.
Cynnwys |
[golygu] Bryngaer Carn Fadryn
Ar gopa Carn Fadryn mae olion hen fryngaer gerrig i'w gweld. Mae ganddi ddau fur amddiffynnol o gerrig mawr. Oddi fewn i'r mur mewnol, sy'n amgae tua 5 hectar o dir, ceir gweddillion cytiau crynion. Mae'r mur allanol yn amgae tua 10.5 hectar o dir ac yn cynnwys olion muriau cynharach a ddefnyddwyd i adeiladu cyfres o gytiau hirsgawr, pob un â'i chorlan gysylltiedig. Mae'r gaer i'w dyddio i Oes yr Haearn; dichon i'r mur mewnol gael ei godi tua 300 C.C. a'r mur allanol tua 100 C.C.. Saif yn nhiriogaeth y Gangani, un o lwythau Celtaidd Cymru; cyfeirnod OS: SH280352.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN011. [1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Heb fod ymhell o'r fryngaer, ceir maen eratig anferth a elwir Bwrdd Arthur.
[golygu] Castell Carn Fadryn
Ar y copa mae adfeilion castell bychan, a gysylltir â "meibion Owain" (Owain Gwynedd) ac sy'n dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif, yn ôl pob tebyg. Mae Gerallt Gymro yn cyfeirio ato yn Hanes y Daith Trwy Gymru fel castell oedd newydd ei chodi. Mae'n bron yn sicr mai'r castell hwn ar ben Carn Fadryn yw'r castell yn hanes Gerallt. Mae'r adfeilion yn gorwedd o fewn muriau'r hen fryngaer. Mae mur cerrig, heb forter o gwbl ynddo, yn amgylchynu crib gyfyng. Mae'r olion yn awgrymu castell ar ffurff cestyll mwnt a beili'r Normaniaid. Does dim cofnod arall am y castell wedi dod i lawr i ni.
[golygu] Castell Madryn
I'r gogledd-ddwyrain o Garn Fadryn mae plasdy Castell Madryn yn sefyll. Roedd yn perthyn i'r teulu lleol o'r un enw; roedd aelodau'r teulu yn dirfeddianwyr mawr yn yr ardal. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 16eg ganrif ond cafodd ei adnewyddu'n sylweddol a'i ehangu yn y 19eg ganrif. Erbyn heddiw mae parcdir y plasdy'n faes carafanau.
[golygu] Y copa
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 371m (1217tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28/10/01.
[golygu] Gweler hefyd
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Cylchoedd cerrig
- Llwythau Celtaidd Cymru