Afon Soch

Oddi ar Wicipedia
Afon Soch
Afon Soch yn llifo trwy harbwr mewnol Abersoch
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.86°N 4.616°W, 52.8264°N 4.5037°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH2927 Edit this on Wikidata
Map

Afon ar benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Soch. Ei hyd yw tua 10 milltir.

Gorwedd tarddle'r afon i'r dwyrain o gymuned Cefnamlwch rhwng Mynydd Cefnamwlch a Carn Fadryn. Llifa i gyfeiriad y de a thrwy bentref Sarn Mellteyrn lle mae'r B4413 yn ei chroesi ar bont. Yna mae hi'n troi i gyfeiriad y de-ddwyrain a heibio i'r de o bentref Botwnnog. Tua chwarter milltir ar ôl Llandegwning, daw ffrwd Afon Horon i mewn iddi o'r gogledd o'i tharddle rhwng Garn Boduan a Garn Saethon.

Llifa'r afon yn ei blaen ar gwrs cyfochrog i fae Porth Neigwl. Ger Llanengan mae hi'n troi'n dynn i'r gogledd ac yna i'r dwyrain eto, i lifo i'r môr yn Abersoch. Yn y pentref hwnnw ceir dau harbwr ar ei glannau, un yng nghanol Abersoch a'r llall ar lan y môr.