Llŷn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Llŷn (gwahaniaethu).

Llŷn yw enw cantref hanesyddol yng ngogledd-orllewin Cymru, sy'n cyfateb yn fras i'r hyn a elwir 'Pen Llŷn' heddiw. Dyma'r Llŷn go iawn.

Cantref wedi'i amgylchynnu ar ddwy ochr gan y môr yw Llŷn, yn sefyll ar wahân ac yn wynebu dros y Môr Celtaidd i dde-ddwyrain Iwerddon. Yn y dwyrain mae'n ffinio ag Arfon ac Eifionydd. Credir fod perthynas ieithyddol rhwng yr enwau Llŷn a Leinster a gwyddys fod mewnfudwyr o'r rhan honno o'r Ynys Werdd wedi ymsefydlu mewn rhannau o Lŷn yn Oes yr Haearn ymlaen.

Ymrennir y cantref yn dri chwmwd, sef Dinllaen a'i llys yn Nefyn, Cymydmaen a'i llys yn Neigwl, a Chafflogion (neu Afflogion) gyda Pwllheli yn ganolfan iddi. O fewn y cantref ceid y clas neu fynachlog Geltaidd gynnar yn Aberdaron ac Ynys Enlli enwog.

Roedd Llŷn yn gartref i lwyth Celtaidd o'r enw y Gangani. Ceir sawl bryngaer yn Llŷn a berthynai iddynt, er enghraifft ym Mortin-llaen, Carn Fadryn a Thre'r Ceiri ar Yr Eifl. Safai'r olaf ar y ffin rhwng Llŷn a chantref Arfon.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • D. T. Davies (gol.), Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn (Pwllheli, 1910).
  • Ioan Mai Evans, Gwlad Llŷn (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1968)
  • Bedwyr Lewis Jones, Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd (Llanrwst, 1987)
  • Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1960)