Mallwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tafarn y Gwylliaid, Mallwyd.
Porth Eglwys Mallwyd.

Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Mallwyd. Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Dyfi ar lôn priffordd yr A470 tua hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Ar bwys y pentref mae cyffordd yr A458 o gyfeiriad Y Trallwng. Y pentrefi agosach yw Dinas Mawddwy, tua dwy filltir i'r gogledd, ac Aberangell i'r de. Mae Afon Dugoed yn aberu yn Afon Dyfi ger y pentref.

Hanes[golygu]

Saif y pentref bron ar yr hen ffin rhwng Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn. Hen enw'r pentref oedd 'Tre'r llan', safle eglwys blwyf Mallwyd yn hen gwmwd Mawddwy. Hon oedd ardal Gwylliaid Cochion Mawddwy, a goffheir o hyd yn enw y dafarn The Brigands yn y pentref.

Yr eglwys[golygu]

Yn ôl traddodiad sefydlwyd eglwys Mallwyd gan Sant Tydecho yn y 6ed ganrif ar ôl iddo ddod i'r ardal o Gernyw. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14eg ganrif ac o adeiladwaith anghyffredin, yn hir ac isel ei ffurf gyda lofftydd yn y ddau ben. Mae llawer o'r ddodrefnu pren yn perthyn i'r 17eg ganrif. Yr ysgolor John Davies oedd rheithor Mallwyd am 30 mlynedd ar ddechrau'r 17eg ganrif; ceir gofeb iddo yn yr eglwys a godwyd ar ddau ganmlyddiant ei farwolaeth.

Pobl o Fallwyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]