A470

Oddi ar Wicipedia
A470
Enghraifft o'r canlynolffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRhodfa Lloyd George Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Hyd186 milltir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o'r A470
Yr A470 ym Mwlch Oerddrws, rhwng Dinas Mawddwy a Dolgellau

Ffordd yng Nghymru yw'r A470. Mae'n mynd yr holl ffordd o Gaerdydd yn y De i Landudno yn y Gogledd.

Pont dros Afon Gwy, Llanfair-ym-Muallt

Ymysg y lleoedd y mae'n mynd trwyddynt mae Maendy, Tongwynlais, Castell Coch, Ffynnon Taf, Pontypridd, Abercynon, Libanus, Aberhonddu, Llyswen, Erwyd, Llanfair-ym-Muallt, Llanelwedd, Cwmbach Llechryd, Pontnewydd-ar-Wy, Rhaeadr Gwy, Llangurig, Llanidloes, Llandinam, Caersŵs, Pontdolgoch, Clatter, Carno, Talerddig, Dolfach, Llanbrynmair, Commins Coch, Glantwymyn, Cwm Llinau, Mallwyd, Dinas Mawddwy, Dolgellau, Llanelltyd, Ganllwyd, Bronaber, Trawsfynydd, Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, dros Fwlch y Gorddinan rhwng Blaenau a Dolwyddelan, Betws y Coed, Llanrwst, Tal y Cafn a Glan Conwy.

Mae'n ffordd hynod o droelliog, ond yn aml yr unig ffordd o deithio o un pen o Gymru i'r llall yw hi.

Fe enwyd rhaglen deledu ar S4C ar ei hôl yn ogystal â chylchgrawn llenyddol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Nid yr A470 – teithlyfr tafod yn y boch gan Ian Parri