Masnachfraint Cymru a'r Gororau

Oddi ar Wicipedia

Mae Masnachfraint Cymru a'r Gororau yn fasnachfraint rheilffordd ar gyfer gwasanaethau i deithwyr yng Nghymru ac rhwng Cymru a Lloegr.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cymru a'r Gororau (Wales & Borders)[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 2000 cyhoeddodd yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol Cysgodol gynllun i greu masnachfraint ar wahân i Gymru a'r Gororau.[1][2] Ym mis Hydref 2001 ail-drefnwyd masnachfreintiau y Valley Lines a Wales & West fel Wales & Borders a Wessex Trains, gyda'r cwmni blaenorol yn cymryd y cyfrifoldeb am rhan fwyaf o'r gwasanaethau yng Nghymru gan gynnwys gwasanaethau'r Cambrian oddi wrth Central trains. Gweithredwyd yr holl fasnachfreintiau gan National Express.[3][4]

Ym mis Medi 2003 trosglwyddwyd y gwasanaethau canlynol i Wales & Borders: Birmingham New Street, Crewe a Piccadilly Manceinion i Landudno a Chaergybi, yn ogystal a'r rhai rhwng Bidston a Wrecsam Canolog a Llandudno a Blaenau Ffestiniog, a weithredwyd gan First North Western.[5]

Trenau Arriva Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mis Hydref 2002 lluniwyd rhestr fer o Arriva, Connex/GB Railways, National Express a Serco-Abellio a'u gwahodd i gynnig am y fasnachfraint nesaf.[6][7] Yn Rhagfyr 2003 cychwynnodd Arriva ar gontract 15 mlynedd i weithredu'r fasnachfraint tan 2018, yn masnachu fel Trenau Arriva Cymru.[8][9][10]

Trafnidiaeth Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mis Hydref 2016 lluniwyd rhestr fer o gwmniau i gynnig am y fasnachfraint nesaf, sef Abellio, Arriva, Keolis / Amey (menter ar y cyd) a Chorfforaeth MTR.[11][12] Bydd y fasnachfraint yn cael ei weithredu o dan y brand Trafnidiaeth Cymru (Transport for Wales).[13] Ym mis Hydref 2017, tynnodd Arriva allan o'r broses.[14][15] Yna tynnodd Abellio allan ym mis Chwefror 2018 yn dilyn cwymp ei bartner Carillion ym mis Ionawr.[16] Ym mis Mai 2018 dyfarnwyd y contract i KeolisAmey Cymru bydd yn gweithredu o dan yr enw Trafnidiaeth Cymru am gyfnod o 15 mlynedd o 14 Hydref 2018 ymlaen mewn contract gwerth £5bn.[17] Bydd y contract yn gwneud buddsoddiad hir-ddisgwyledig i'r rhwydwaith, gan gynnwys:[18]

  • £800m o fuddsoddiad mewn trenau
  • £194m i foderneiddio 247 o orsafoedd ac adeiladu pedair gorsaf Metro
  • 285 gwasanaeth ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • 294 gwasanaeth ychwanegol ar ddydd Sul

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "SSRA redraws franchise map" Railway Gazette International August 2000 page 459
  2. The Wales and Borders Franchise House of Commons Select Committee on Welsh Affairs Third Report 17 March 2004
  3. "Wales & West splits ready for new franchise" Rail Magazine issue 417 5 September 2001 page 11
  4. "Central's Welsh trains go to Wales & Borders" Rail Magazine issue 422 14 November 2001 page 16
  5. "First North Western in split" The Railway Magazine issue 1202 June 2001 page 11
  6. "Four still in race for Wales & Borders" Rail Magazine issue 446 16 October 2002 page 12
  7. "Dutch plan a Welsh invasion" The Railway Magazine issue 1221 January 2003 page 6
  8. "Arriva preferred bidder for 15-year Wales franchise" Rail Magazine issue 468 20 August 2003 page 13
  9. "Arriva wins Wales & Borders" Rail Express issue 88 September 2003 page 6
  10. "Arriva to operate Wales & Borders" The Railway Magazine issue 1230 October 2003 page 35
  11. Rail operator shortlist revealed Welsh Government 12 October 2016
  12. Wales & Borders bidders asked to propose Metro options Railway Gazette International 13 October 2016
  13. "TfW to replace operator's branding". Rail Magazine. Press Reader. 30 August 2017. Cyrchwyd 23 January 2018.
  14. Arriva pulls out of Wales & Borders franchise contest Archifwyd 2017-11-07 yn y Peiriant Wayback. International Railway Journal 30 October 2017
  15. Arriva Trains Wales drops out of Welsh rail franchise bid BBC News 30 Hydref 2017
  16. "Abellio ends rail bid after Carillion collapse". BBC News. 23 Chwefror 2018. Cyrchwyd 25 February 2018.
  17. Wales' rail and metro franchise to be run by KeolisAmey BBC News 23 Mai 2018
  18. "New trains and more services in £5bn deal". BBC News (yn Saesneg). 2018-06-04. Cyrchwyd 2018-06-04.