Gorsaf reilffordd Piccadilly Manceinion
| Piccadilly Manceinion |
||
|---|---|---|
| Saesneg: Manchester Piccadilly | ||
| Lleoliad | ||
| Lleoliad | Manceinion | |
| Awdurdod lleol | Manceinion | |
| Gweithrediadau | ||
| Côd gorsaf | MAN | |
| Rheolir gan | Network Rail | |
| Nifer o blatfformau | 14 (Network Rail) 2 (Metrolink) |
|
|
gan National Rail Enquiries |
||
| Defnydd teithwyr blynyddol | ||
| 2009-10 | ||
| 2010-11 | ||
Mae gorsaf reilffordd Piccadilly Manceinion (Saesneg: Manchester Piccadilly) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu ddinas Manceinion, Lloegr. Mae'n gwasanaethu llwybrau intercity i Lundain, Birmingham, De Cymru, arfordir de Lloegr, Caeredin a Glasgow, a llwybrau ar draws gogledd Lloegr. Mae yna hefyd dau blatfform sy'n gwasanaethu'r Metrolink. Mae Piccadilly yn un o 18 o orsafoedd rheilffordd Brydeinig sydd wedi ei rheoli gan Network Rail.
Piccadilly yw'r orsaf brysuraf ym Manceinion cyn gorsafoedd Victoria, Deansgate, Salford Canolog a Oxford Road. Hwn yw'r orsaf pedwerydd brysuraf yn y Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, ar ôl New Street Birmingham, Glasgow Canolog a Leeds. Yn ôl Network Rail, mae dros 28,500,000 o bobl yn defnyddio'r orsaf yn flynyddol.
Yn 2002 derbynodd yr orsaf werth £100m o waith adnewyddu dros gyfnod o bum mlynedd, y gwelliant mwyaf drud ar y rhwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig ar y pryd. Yn ôl arolwg barn annibynnol a gynhaliwyd yn 2007, Piccadilly sydd â'r lefel uchaf bodlonrwydd cwsmeriaid o unrhyw orsaf y DU, gyda 92% o deithwyr yn fodlon gyda'r orsaf, y cyfartaledd cenedlaethol oedd 60%.
Hanes [golygu]
Agorwyd yr orsaf ar 8 Mai, 1842 fel gorsaf Store Street a gorsaf Bank Top. Roedd yn derfynfa i Reilffordd Manceinion a Birmingham, ac roedd yn rhannu'r orsaf o Awst 1844 gyda Rheilffordd Sheffield, Ashton-under-Lyne a Manceinion.
London Road Manceinion [golygu]
Cafodd yr orsaf ei ail-enwi yn orsaf London Road yn 1847, o amgylch y pryd cafodd Reilffordd Manceinion, Sheffield a Swydd Lincoln ei ffurfiwyd (hwyrach i fod yn Rheilffordd Ganolog Fawr). Agorodd Rheilffordd Manceinion, Cyffordd De a Altrincham (MSJAR) ei linell o orsaf Oxford Road i London Road ar 1 Awst, 1849 ac adeiladwyd ei lwyfannau ei hun ger y brif ran yr orsaf. Roedd y llwyfannau hyn yn cael eu cyfeirio ato fel y llwyfannau MSJAR neu Gyffordd De. Yn ystod y 1880au cynnar cafodd yr orsaf ei ehangu. Cafodd y llwyfannau MSJAR a'r bont dros Fairfield Street eu dymchwel a llwyfan ynys, ar bontydd hytrawst, ei hagor ar 16 Mai, 1882.
Yn ystod y ddau ddegawd cyntaf yr 20fed ganrif, roedd gorsaf London Road yn cael ei gwasanaethu gan y Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin, Rheilffordd Ganolog Fawr a, drwy bwerau rhedeg, y Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford.
Gorsaf Metrolink [golygu]
| Metrolink Manceinion | ||
|---|---|---|
| Lleoliad | ||
| Lle | Manceinion | |
| Awdurdod lleol | Manceinion | |
| Blatfformau | 2 | |
| Gwybodaeth Parth Pris | ||
| Parth Metrolink | D (Dinas) | |
| Hanes | ||
Mae gorsaf Piccadilly ar hyn o bryd yn derfynfa i wasanaethau Metrolink Manceinion i Bury, Altrincham, Eccles a MediaCityUK. Mae'r orsaf Metrolink, mewn claddgell gromennog o dan yr orsaf prif linell, yn un o wyth sy'n gwasanaethu canol dinas Manceinion, o fewn CityZone y system.
|
||||||||||