Gorsaf reilffordd Crewe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crewe National Rail logo.svg
Platform 2 at Crewe railway station.jpg
Lleoliad
Lleoliad Crewe
Awdurdod lleol Swydd Gaer
Gweithrediadau
Côd gorsaf CRE
Rheolir gan Virgin Trains
Nifer o blatfformau 12
Cyraeddiadau/gwyriadau fyw a gwybodaeth orsaf
gan National Rail Enquiries
Defnydd teithwyr blynyddol
2005-06 Green Arrow Up.svg 1.652 miliwn
2006-07 Green Arrow Up.svg 1.750 miliwn
2007-08 Green Arrow Up.svg 1.900 miliwn
2008-09 Green Arrow Up.svg 1.954 miliwn
2009-10 Green Arrow Up.svg 2.035 miliwn
2010-11 Green Arrow Up.svg 6.246 miliwn
2011-12 Green Arrow Up.svg 6.351 miliwn

Mae gorsaf reilffordd Crewe yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Crewe (Cryw) yn Swydd Gaer, Lloegr.

Hanes[golygu]

Trên Virgin yng Ngorsaf reilffordd Cryw

Agorwyd gorsaf reilffordd Cryw ar 4ydd Gorffennaf 1837, gan Gwmni Rheilffordd Grand Junction. Cyrhaeddodd y drên gyntaf o Lerpwl, ac aeth hi i Birmingham.[1] Roedd amcan y cwmni wedi bod uno'r Rheilffordd Llundain a Birmingham efo Rheilffordd Lerpwl a Manceinion. Aeth y lein o Orsaf Reilffordd Stryd Curzon yn Birmingham i Warrington, lle ymunodd hi'r Rheilffordd Warrington a Newton, cangen leol o Reilffordd Lerpwl a Manceinion.[2] Penderfynwyd symud gweithdai'r rheilffordd o Edge Hill, Lerpwl, i safle mwy canolog yng Nghryw;[1] prynwyd tir ar gyfer gweithdai rheilffordd ym 1840. Yn Hydref 1840, agorwyd Rheilffordd Caer a Chryw. Yn Awst 1842, agorwyd rheilffordd arall o Gryw i Fanceinion trwy Wilmslow a Stockport. Ym 1848, agorwyd lein o Gryw i Kidsgrove, rhan o Reilffordd Gogledd Swydd Stafford, yn hwyluso symudiad o lo o'r pyllau gogledd Swydd Stafford.[1] Ffurfiwyd Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin ym 1846 wrth uno Gwmnïau Grand Junction, Llundain a Birmingham, a Birmingham a Manceinion,[3] ac ym 1948, agorwyd lein o Gryw i Amwythig gan y cwmni. Adeiladwyd y gweithdai erbyn 1846, a chrëwyd dref gan dyfiant sydyn y boblogaeth leol, o 148 ym 1831 i 4571 ym 1851 a 17810 erbyn 1871.[2]


Trên Arriva Cymru'n cyrraedd Cryw o Amwythig

Ailadeiladwyd yr orsaf yn 1861 ac ychwanegwyd platfformau 5 a 6. Ychwanegwyd lein osgoi ar gyfer trenau nwyddau tua diwedd y 19eg ganrif, ac yn enwir "the muck hole" gan selogion y rheilffyrdd hyd at heddiw.[4]

Daeth y Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin yn rhan y Rheilffordd Llundain, Canolbarth ac Albanaidd ym 1923, fel rhan o ad-drefniant cenedlaethol y rheilffyrdd, ac ym 1948 daeth y cwmni'n rhan o Ranbarth Llundain Canolbarth o'r Rheilffyrdd Prydeinig.[5]

Dechreuodd gwaith trydaneiddio'r rheilffyrdd o Lundain i Fanceinion, Lerpwl a Glasgow ym 1959, a chwblhawyd y prosiect ym 1974.[6] Cafodd y lein rhwng Cryw a Kidsgrove ei thrydaneiddio fel rhan o'r cynllun Llundain-Manceinion; Mae'n cysylltu â lein arall o Lundain i Fanceinion trwy Stoke on Trent, ac yn cael ei defnyddio fel gwyriad o bryd i'w gilydd. Erbyn hyn, dim ond y rheilffyrdd o Gryw i Amwythig, a Chryw i Gaer a Chaergybi, sydd heb eu trydaneiddio.

Gwasanaethau Presennol[golygu]

Yn ddyddiol, mae 22 drên yn mynd trwy Gryw pob awr, yn ogystal a gwasanaethau llai aml. Dyma grynodeb:[7][8][9][10][11][12]


Gorsaf gynt   RHEILFFYRDD GWREIDDIOL   Gorsaf nesaf
Worleston   Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin
Rheilffordd Caer a Chryw
  Terminws
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Minshull Vernon
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
  Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin
Rheilffordd Grand Junction
  Betley Road
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Terminws   Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin
Rheilffordd Amwythig a Chryw
Rheilffordd Nantwich a Market Drayton
  Willaston
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Terminws   Rheilffordd Great Western
Rheilffordd Nantwich a Market Drayton
  Willaston
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Terminws   Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford
Lein Cryw - Derby
  Radway Green
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Gorsaf gynt   RHEILFFYRDD PRESENNOL   Gorsaf nesaf
Nantwich   Trenau Arriva Cymru
Lein y Gororau
  Wilmslow
Terminws neu Stafford   Trenau Arriva Cymru
Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru
  Caer
Terminws   East Midland Trains
Lein Cryw - Derby
  Alsager
Llundain (Euston)   First ScotRail
Sleeper Celyddon
  Preston
Stafford   London Midland
Birmingham - Lerpwl
  Winsford
Terminws   London Midland
Llundain-Cryw
  Alsager
Terminws   Northern Rail
Lein Cryw - Manceinion
  Sandbach
Stafford   Cross Country
Rhwydwaith Traws Gwlad
  Wilmslow
Wolverhampton   Virgin Trains
Birmingham - Glasgow/Caeredin
  Warrington
Bank Quay
Stafford   Virgin Trains
Lein Lerpwl
  Runcorn
Stafford
neu Llundain (Euston)
  Virgin Trains
Lein Manceinion
  Wilmslow
Milton Keynes Canolog   Virgin Trains
Canghennau Caer/Caergybi/Wrecsam
  Caer

Cyfeiriadau[golygu]


Template Railway Stop.svg Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.