Llys-wen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys y Santes Gwendoline

Pentref bychan yn ne Powys yw Llys-wen (hefyd: Llyswen). Fe'i lleolir yn ardal Brycheiniog tua hanner ffordd rhwng Y Gelli ac Aberhonddu. Mae'n rhan o gymuned Bronllys.

Gorwedd Llys-wen ar lan yr Afon Gwy ar y briffordd A470 sy'n cysylltu Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt. Y pentref agosaf yw Pipton, i'r dwyrain.

Ceir Eglwys y Santes Gwendoline yn y pentref, a sefydlwyd gan y Normaniaid. Ad-adeiladwyd yr hen eglwys yn gyfangwbl yn 1862 a dim ond y bedyddfaen Normanaidd sy'n aros o'r eglwys wreiddiol.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato