Aberriw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aberriw.

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Aberriw (Saesneg: Berriew). Saif i'r de-orllewin o'r Trallwng ac i'r gogledd-orllewin o Drefaldwyn. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,306.

Cysegrwyd eglwys Aberriw, sy'n dyddio o'r 19eg ganrif yn ei ffurf bresennol, i sant Beuno, oedd yn ôl traddodiad yn frodor o'r pentref. Yn y Canol Oesoedd roedd yn ganolfan grefyddol i gantref Cedewain. Tua milltir i'r de-ddwyrain o Aberriw ceir Rhyd Chwima, croesfan strategol ar Afon Hafren a fu'n man cyfarfod er cynnal trafodaethau rhwng Tywsyog Cymru a Brenin Lloegr yn y 13eg ganrif.

Mae Capel Pentre Llifior (1797) yn un o adeiladau cynharaf y Wesleaid yng Nghymru.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato