Llanwrin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanwrin in 2006

Pentref bychan a phlwyf ym Mhowys ydy Llanwrin (Loudspeaker.svg ynganiad ?/i ), sy'n gorwedd yn nyffryn Afon Dyfi, dwy filltir ir gogledd ddwyrain o Fachynlleth; yn hanesyddol bu'r pentref yn Sir Drefaldwyn. Caiff y pentref ei henw o'r capel sydd wedi ei chydegru i Sant Gwrin.

Roedd y gymuned yn ffynu ar un tro, gyda'i gofaint, tafarndy a siop. Mae'r rhain eisioes wedi cau; tan yn ddiweddar, casgliad o dai yn ymestyn ar hyd y B4404 oedd Llanwrin. Ond yn 2007, dechreuwyd gwaith adeiladu ar dai newydd ger canol y pentref, gyda'r gobaith o adfywio'r ardal lleol.

Mae Llanwrin yn enwog yn leol am ei "Ddyn Gwellt" sy'n ymddangos yn eistedd ar y fainc yng nghanol y pentref rwan ac yn y man. Does neb yn gwybod o ble ddaw na i ble diflanai, ond maent yn ei golli pan nad yw o gwmpas.

Enwogion[golygu]

Ym mhlwyf Llanwrin ceir hen blasdy Mathrafal, cartref y brudiwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn (c.1395-1386). Galwodd Harri Tudur yno ar ei ffordd i ymladd Brwydr Bosworth yn 1485.

Bu'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans yn offeiriad yma o 1876 hyd 1903.

Dolenni Allanol[golygu]


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.