Llansanffraid Cwmdeuddwr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y bont ar afon Gwy, Rhaeadr Gwy, gyda eglwys Llansanffraid Cwmdeuddwr yn y pellter.

Penref bychan a phlwyf yn ardal Maldwyn, Powys yw Llansanffraid Cwmdeuddwr (hefyd: Llansanffraid Cwmteuddwr; talfyrir yn aml i Cwmdauddwr mewn ffynonellau Saesneg).[1] Fe'i lleolir fymryn i'r gorllewin o dref fechan Rhaeadr Gwy ar y ffordd sy'n arwain i Gwm Elan. Erbyn hyn mae'n fath o "faesdref" i Raeadr Gwy ond mae Rhaeadr Gwy ei hun yn rhan o blwyf eglwysig Llansanffraid Cwmdeuddwr.

Mae eglwys y plwyf yn un o sawl un yng Nghymru a gysgegrwyd i'r Santes Ffraid. Ymddengys fod ail elfen yr enw yn cyfeirio at Gwmwd Deuddwr, un o gymydau canoloesol teyrnas Powys.

Llifa Afon Gwy ifanc heibio ger y pentref.

Cyfeiriadau[golygu]