Llanrhaeadr-ym-Mochnant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanrhaeadr-ym-Mochnant

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yng ngogledd Powys yw Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Fe'i lleolir ym mhen mwyaf gogleddol y sir tua 9 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt a 12 milltir i'r de o Langollen. Rhed y lôn B4580 trwy'r pentref.

Fe'i gelwir yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant am ei fod yn rhan o hen gantref Mochnant.

Mae'r pentref yn gorwedd wrth droedfryniau cyntaf Y Berwyn ar lan afon Rhaeadr. Ym mhen uchaf y cwm ceir Pistyll Rhaeadr, un o Saith Rhyfeddod Cymru yn yr hen rigwm. Un filltir i'r gogledd o Lanrhaeadr mae bryn Moel Hen-fache (515m).

Pobl o Lanrhaeadr-ym-Mochnant[golygu]

Treuliodd yr Esgob William Morgan (1545-1604), cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg, gyfnod yn ficer plwyfi Llanrhaeadr ym Mochnant a Llanarmon Mynydd Mawr cyfagos o 1568 hyd 1587. Yno y cyfarfu â'i wraig, Catherine.

Symudodd y bardd a golygydd Walter Davies (Gwallter Mechain) o Fanafon i fod yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y 18 Tachwedd 1837. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849, a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf wrth lan afon Rhaeadr.

Un o enwogion eraill y plwyf oedd y bardd Robert Elis (Cynddelw), a aned yno yn 1812.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant (pob oed) (1,195)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrhaeadr-ym-Mochnant) (497)
  
42.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrhaeadr-ym-Mochnant) (435)
  
36.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanrhaeadr-ym-Mochnant) (161)
  
30.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: