Llawr-y-glyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan ym Mhowys yw Llawr-y-glyn (amrywiadau: Llawryglyn, Llawr y Glyn). Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn tua 10 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd a 5 milltir i'r gorlelwin o Gaersŵs ar lan Afon Trannon, un o ledneintiau Afon Hafren. Mae ffyrdd yn ei gysylltu â Chaersŵs, Trefeglwys a Llanidloes.

Ganed yr ysgolhaig llenyddiaeth Charles Ashton (1848-1899) yn y pentref.