Llanerfyl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref ym Mhowys yw Llanerfyl. Saif ar yr A458 tua hanner ffordd rhwng Y Trallwng i'r dwyrain a Dolgellau i'r gorllewin. Tua milltir i'r gorllewin ceir pentref Llangadfan.

Rhed afon Banwy heibio i'r pentref ar ei ffordd i lawr Dyffryn Banwy i'r Trallwng.

Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y Santes Erfyl/Eurfyl. Ni wyddys ddim amdani, ond yn ôl traddodiad roedd hi'n ferch i Sant Padarn. Ceir maen Cristnogol cynnar (5ed neu 6ed ganrif) yn eglwys Llanerfyl sy'n cofnodi man claddu merch ifanc 13 oed:

HIC [IN] / TUM(V)LO IAC/IT R[O]STE/ECE FILIA PA/TERNINI / AN(N)IS XIII IN / PA(CE)
('Yma yn y beddrod gorwedd *Rhostege ferch Padarn, 13 (oed). Heddwch iddi.').[1]

Ganwyd y gantores enwog Siân James yn y pentref yn 1962.

Plu'r Gweunydd yw papur bro Llanerfyl a'r cylch.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. T. D. Beverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato