Cilmeri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y pentref yw hon. Gweler hefyd Cilmeri (grŵp gwerin).
Carreg goffa Llywelyn Ein Llyw Olaf yng Nghilmeri

Pentref gwledig ym Mhowys yw Cilmeri. Fe'i lleolir ar y briffordd A483 tua 2 filltir i'r gorllewin o dref Llanfair-ym-Muallt ar lan ogleddol Afon Irfon.

Llywelyn Ein Llyw Olaf [golygu]

Mae Cilmeri hefyd yn enw ar lecyn gerllaw'r pentref lle lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ar 11 Rhagfyr, 1282, sef ychydig islaw'r garreg a'r rhyd sy'n croesi Afon Irfon. Codwyd cofeb i'r tywysog yn 1956 gan wladgarwyr Cymreig i gofio amdano. Ers hynny mae'r gofeb yn denu nifer o ymwelwyr ar 11 Rhagfyr, Diwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf, i dalu teyrnged i Lywelyn. Cofnodwyd yn wreiddiol mai cynllwyn dan-din gan y Saeson a arweiniodd at ei gwymp, ei fod wedi dod at y rhyd i drafod termau heddwch, ar ei ben ei hun, fel a gytunwyd. Ond ni chadwodd y fyddin Seisnig at ei gair, ac roedd nifer ohonynt yn ei ddisgwyl.

Cilmeri yw enw ar awdl a chyfrol o gerddi nodedig gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen (Cilmeri a cherddi eraill, Gwasg Gwynedd, 1991).

Henebion [golygu]

Saif hen domen a beili Caer Beris rhwng y pentref a Llanfair-ym-Muallt. Yma hefyd ceir Crug Crwn Gwaun Neli.

Gweler hefyd [golygu]


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato