Tal-y-bont, Maldwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y bont ar Gamlas Trefaldwyn, Tal-y-bont.

Pentre bychan ym Maldwyn ydy Tal-y-bont (Saesneg: Buttington neu Buttington Cross). Cyfeirnod OS: SJ2408. Fe'i lleolir ar lan afon Hafren i'r gogledd-ddwyrain o Drefaldwyn, Powys.

Yn Nhal-y-bont yr ymladdwyd Brwydr Tal-y-bont rhwng cynghrair o Gymry a gwŷr Mercia yn y flwyddyn 893.

Yn 1916 bomiwyd Tal-y-bont gan awyrlong Zeppelin yr Almaenwyr ond ni lladdwyd neb; dyma'r unig dro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y cafwyd ymosodiad ar Gymru o'r awyr.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Reference Wales golygydd John May. Gwasg Prifysgol Cymru, 1994.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.